Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hadau: Beth a Pham Sampl

Seeds: What and Why

DYDD 3 O 4

Diwrnod 3 - Dw i'n dod o hedyn newydd! …felly beth nesaf?

Felly, hedyn newydd wyt ti, wedi'i ryddhau o gyfyngiadau'r hedyn naturiol wnes di ddod ohono a'r natur bechadurus, syrthiedig a ddaeth gydag e. Nawr, beth amdanom ni'n newid pan fydd hyn yn digwydd?

(1 Pedr 1:22-23, [beibl.net])

“Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon. Wedi'r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o'r newydd! Mae'r bywyd dych chi wedi'i dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy'n darfod, ond mae'r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi'i phlannu ynoch chi, ac mae hi'n neges sy'n rhoi bywyd ac sy'n aros am byth.” (1 Pedr 1:22-23, [beibl.net]).

“A sut olwg sydd ar hedyn anfarwol, beth ddylem ni edrych ymlaen ato? Fe’i gwelwn yno yn adnod 22, “...yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon”. Mae’r cariad hwn wedi’i osod y tu mewn i ni pan gawsom ein geni eto, ond mae’n ddyletswydd arnom i adael i’r cariad gael ei ddangos gennym ni a pheidio â’i fygu” (Mathew 5:15-16, [beibl.net]).

Efallai fod hyn yn ymddangos yn rhy syml o lawer, ond gwelwn hyn yn cael ei gadarnhau trwy'r ysgrythurau:

(Galatiaid 5:13-14, [NLT])

“dych, ffrindiau annwyl, dych chi wedi'ch galw i fod yn rhydd. Ond dw i ddim yn sôn am benrhyddid, sy'n esgus i adael i'r chwantau eich rheoli chi. Sôn ydw i am y rhyddid i garu a gwasanaethu eich gilydd. 14 Mae yna un gorchymyn sy'n crynhoi'r cwbl mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.” (Galatiaid 5:13-14, [beibl.net]).

(1 Corinthiaid 13:2, [beibl.net])

“Efallai fod gen i'r ddawn i broffwydo, a'r gallu i blymio'r dirgelion dyfnaf - neu'r wybodaeth i esbonio popeth! Efallai fod gen i ddigon o ffydd i ‘symud mynyddoedd’- ond heb gariad dw i'n dda i ddim.” (1 Corinthiaid 13:2, [beibl.net]).

Mae'n gwneud synnwyr pellach i ni, pan edrychwn yn ôl i ble y daeth yr hedyn newydd hwn:

(Ioan 3:16, [AMP])

“Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16, []).

CARIAD yw'r math o hedyn wyt ti.

Myfyria heddiw ar yr hyn y mae'n ei olygu i gael dy ail-wneud mewn cariad, mae'r ysgrythurau nesaf yn dadansoddi sut olwg sydd ar y cariad hwnnw. Sut olwg fyddai ar dy fywyd petai ti'n arddangos pob un o'r ymadroddion cariad hyn?

(1 Corinthiaid 13:4-7, [NLT])

“Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun. 5 Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. 6 Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni — beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir. 7 Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.” (1 Corinthiaid 13:4-7, [beibl.net]).

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Seeds: What and Why

Hadau, maen nhw ym mhobman. Mae dy eiriau, dy arian, dy blant a hyd yn oed ti, dy hun, yn hedyn! Sut mae'r hadau hyn yn gweithio a pham ddylai fod o bwys i ni? Gawn ni weld beth sydd gan y Beibl i’w ddweud a darganfod sut y gall fod yn berthnasol i’n bywydau er mwyn dod â ni’n nes at Dduw a’i bwrpas ar ein cyfer.

More

Hoffem ddiolch i Abundant Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alcky.com