Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hadau: Beth a Pham Sampl

Seeds: What and Why

DYDD 2 O 4

Diwrnod 2 - Had Newydd

Pan fydd plant yn cael eu geni, ar unwaith mae ffrindiau a pherthnasau yn mwynhau tynnu sylw at y nodweddion sy'n debyg i dad y baban a'r fam. Dŷn ni'n gwneud hyn oherwydd dŷn ni'n gwybod bod y plentyn yn dod o had ei rieni, ac maen nhw'n rhannu cyfansoddiad genetig tebyg. Mae blynyddoedd yn mynd heibio, a sylweddolwn fod mwy na thebygrwydd gweledol yn unig. Mae plant yn aml yn rhannu ystumiau, prosesau meddwl, deallusrwydd, talentau, a mwy, gyda'u rhieni!

O bwy wyt ti'n dod? Pa rinweddau ges di ganddyn nhw? Beth mae pobl yn ei feddwl pan fyddan nhw’n clywed dy enw teuluol? Mae'r cwestiynau hyn yn gwneud rhai darllenwyr yn ddiolchgar ond yn digalonni’r rhan fwyaf. Os mai dim ond wedi ein gwneud o'r hyn a ddaeth o'n blaen ydyn ni, felly ai’n tynged yw bod fel ein rhieni mewn rhyw fodd neu’i gilydd?

Dyma lle mae Iesu yn camu i mewn!

(1 Ioan 3:9, [beibl.net])

“Dydy'r rhai sydd wedi'u geni'n blant i Dduw [yn fwriadol, yn wybodus, ac yn arferol] ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw [ei egwyddor o fywyd, hanfod ei gymeriad cyfiawn] wedi'i blannu ynddyn nhw [yn barhaol] fel hedyn. [yr un sydd wedi’i eto - yr un sydd wedi ei aileni oddi uchod - wedi ei drawsnewid yn ysbrydol, ei adnewyddu, a'i osod ar wahân i'w bwrpas e]. Dŷn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw.” (1 Ioan 3:9, [beibl.net]).

Fel person wedi ei eni eto, mae ynot ti, union batrwm, hanfod, a DNA ysbrydol dy Dad! Mae hyn yn golygu bod ein potensial bellach yn ddiderfyn, a dŷn ni’n cynnwys yr un pethau ag y mae Duw wedi'i wneud ohonyn nhw.

(Galatiaid 3:26, [beibl.net])

“Dych chi i gyd [y rhai a aned eto - wedi eich aileni oddi uchod - wedi eich trawsffurfio yn ysbrydol, eich adnewyddu, eich sancteiddio,] yn blant Duw [wedi eich gosod ar wahân i’w bwrpas e â hawliau a breintiau llawn] drwy gredu yn y Meseia Iesu” (Galatiaid 3:26, [beibl.net]).

Pan fydd aelod o’r teulu’n marw, oni bai bod ewyllys ysgrifenedig sy’n nodi fel arall, mae’r aelod agosaf o’r teulu yn etifeddu’r cyfan sydd ganddo. Dŷn ni’n gweld ein bod yn cael hawliau a breintiau llawn fel plant Duw yn yr hedyn newydd hwn! Nid yw'r etifeddiaeth hon yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ymladd amdano, dŷn ni wedi cael ein haileni iddi, a ni yn unig.

Myfyria heddiw ar beth mae'n ei olygu i gael Duw yn Dad i ti, beth mae'n ei olygu i gael dy wneud o'r un stwff ag e!

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Seeds: What and Why

Hadau, maen nhw ym mhobman. Mae dy eiriau, dy arian, dy blant a hyd yn oed ti, dy hun, yn hedyn! Sut mae'r hadau hyn yn gweithio a pham ddylai fod o bwys i ni? Gawn ni weld beth sydd gan y Beibl i’w ddweud a darganfod sut y gall fod yn berthnasol i’n bywydau er mwyn dod â ni’n nes at Dduw a’i bwrpas ar ein cyfer.

More

Hoffem ddiolch i Abundant Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alcky.com