Hadau: Beth a Pham Sampl
Diwrnod 1- Beth yw ‘Hadau’ ?
Mae'n debygol na fydd yn syndod iti fod y sôn cynharaf am had yn y bennod gyntaf oll o Genesis. Yn Genesis y byddwn yn gosod sylfaen deall, had, a bwriad a chynllun Duw ar gyfer hadau. (Genesis 1:11, [AMPC])
” “Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o’r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy o’r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd.” (Genesis 1:11, [beibl.net]).
Tarddiad y gair Hebraeg dŷn ni'n ei gyfieithu i had yw Zara, mae concordans STRONG, ac eraill, yn ei ddiffinio fel, “i hau, gwasgaru had” (Strong, 2010). Daw'r diffiniad hwn i fodolaeth amlwg yn hanner olaf yr adnod, lle mae'n nodi, bod had yn achosi lluosi'r hyn a ddaeth o'i flaen (Genesis 1:11, [AMPC]).
Yn yr ysgrythur hwn y gwelwn y cyfeiriad cyntaf at y gair had, yn ogystal â'r sôn cyntaf am fywyd naturiol (Genesis 1:11, [beibl.net]). Mae'r cydberthynas yn fwriadol, mae pob bywyd yn tyfu ac yn lluosi trwy ryw fath o had.
Mae'r cwestiynau y gallwn eu tynnu ar unwaith o hyn yn enfawr! Os yw had yn anwahanadwy oddi wrth fywyd, yna ble yn ein bywyd y disgwylir i ni gynhyrchu had a beth sy'n digwydd gydag e? Os o had y daw pob bywyd, yna o ba fath o hedyn ddaethom ni? Y cwestiwn pwysicaf yw, beth ddylai hyn i gyd ei olygu i mi (Genesis 1:12, [beibl.net])
“>“Roedd y tir wedi’i orchuddio ȃ glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, a’u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.” (addas, clodwiw) a chymeradwyodd e. (Genesis 1:12, [beibl.net[).
Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn ceisio atebion i'r cwestiynau hyn yng Ngair Duw; ond am y tro cymera gysur, o wybod o Genesis 1:12, fod Duw wedi creu had er daioni! Roedd ei gynllun gwreiddiol yn dda, ac er ein bod yn byw mewn byd syrthiedig, mae ganddo gynllun prynedigaeth i adfer unrhyw had yn ôl i'r cynllun da, cyflawn a pherffaith hwnnw (Genesis 1:12, [AMPC]).
Dw i’n dy annog i fyfyrio ar y meddyliau ysgrythurol hyn a chwilio am hadau mewn bywyd bob dydd. Nid oes un peth yn fyw heddiw na ellir ei olrhain yr holl ffordd i'r dechreuad, ac fe gyrhaeddodd yma oherwydd HADAU.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Hadau, maen nhw ym mhobman. Mae dy eiriau, dy arian, dy blant a hyd yn oed ti, dy hun, yn hedyn! Sut mae'r hadau hyn yn gweithio a pham ddylai fod o bwys i ni? Gawn ni weld beth sydd gan y Beibl i’w ddweud a darganfod sut y gall fod yn berthnasol i’n bywydau er mwyn dod â ni’n nes at Dduw a’i bwrpas ar ein cyfer.
More