Coda a Dos AtiSampl
Plant y Goleuni
Yn llyfr Eseia, gwelwn sut roedd pobl Jerwsalem yn teimlo’n gaeth yn nhywyllwch y byd o’u cwmpas yn ogystal ag yn eu pechod eu hunain: “Felly, dyna pam nad ydy’r sefyllfa wedi’i sortio, ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau’n iawn. Dŷn ni’n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch, yn edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll.." (Eseia 59:9).
Ond yna mae'r proffwyd Eseia yn eu galw nhw'n uwch. Mae'n eu galw i mewn i'r gwirionedd.
"“Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod. Mae ysblander yr Arglwydd wedi gwawrio arnat! Er bod tywyllwch yn gorchuddio’r ddaear a thywyllwch dudew dros y gwledydd, bydd yr Arglwydd yn tywynnu arnat ti, a bydd ei ysblander i’w weld arnat.." (Eseia 60:1-2)
Rwyt ti hefyd yn cael dy alw'n uwch. Dwyt ti ddim yn gaeth mewn tywyllwch. Daeth goleuni gwirioneddol y byd hwn i lawr a byw bywyd dynol, ac yna rhoddodd ei fywyd drosot ti. Gall tywyllwch y byd hwn deimlo'n llethol. Gall y tywyllwch dŷn ni'n cymryd rhan ynddo weithiau ymddangos yn ddeniadol. Efallai y byddi di’n teimlo'n annigonol i lewyrchu goleuni Crist. Dyna lle mae'r gelyn eisiau iti aros! Dyna'r tywyllwch yr oedd y rhai yn llyfr Eseia yn teimlo'n gaeth ynddo. Ond yna gwelwn Eseia yn dweud wrth y bobl am godi a disgleirio.
Fy ffrind, dw i'n dweud wrthot ti, y funud yma “[dy enw yma], cod! Gad i'th olau ddisgleirio i bawb ei weld. Oherwydd y mae gogoniant yr Arglwydd yn codi i ddisgleirio arnat ti.”
Cadwa dy lygaid ar Iesu, a gad iddo newid y ffordd rwyt yn gweld pethau. Ef yw awdur a chreawdwr y cyfan, ac mae e eisiau i ti weld pethau fel y maen nhw mewn gwirionedd: eisoes wedi'u goresgyn gan oleuni'r byd.
Mae'n bryd codi a disgleirio. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw yng nghelwyddau’r gelyn a dechrau byw ar wirionedd Gair Duw. Mae'n bryd rhoi'r gorau i geisio disgleirio'r golau arnat ti dy hun ond yn hytrach disgleirio'r golau ar Iesu. Mae’n bryd iti ddisgleirio goleuni Crist er mwyn i’r byd i gyd weld a gwybod gogoniant yr Arglwydd. Dos ati fy ffrind!
Cod a disgleiria.
Arglwydd, yr wyf am i'th oleuni lewyrchu ynof fi a thrwof fi. Atgoffa fi bob dydd o'r gwirionedd dy fod yn fwy nag unrhyw dywyllwch! Amen.<
Gobeithiwn fod y cynllun hwn wedi dy annog. Dysga fwy am Arise and Shine gan Allyson Golden yma .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.
More