Coda a Dos AtiSampl
Llawenydd Gair Duw
Efallai y byddwn ni’n meddwl bod “disgleirio’r golau” yn golygu dod â gobaith i bobl neu ymhyfrydu mewn eiliadau hapus. Er fy mod yn credu ei fod yn y pethau hynny, rwyf wedi dysgu bod golau yn disgleirio'r disgleiriaf mewn sefyllfaoedd caled. Yn union fel golau’r haul yn torri trwy ddarnau toredig ffenestr liw, mae Iesu’n tyllu drwy ein darnau tywyll, toredig ac yn disgleirio i’r byd i gyd eu gweld.
Pan fyddwn yn pwyso ar Dduw mewn cyfnodau o dywyllwch byddwn yn cael ein cryfhau a'n harfogi i ddisgleirio ei oleuni. Un ffordd y gallwn ddod yn nes at Oleuni’r byd yw darllen Gair Duw.
Efallai dy fod wedi cael dy hun yn meddwl: Mae'r Beibl yn ddiflas, dydw i ddim yn ei ddeall,a does gen i ddim amser ar ei gyfer. Ond dw i am ofyn hyn i ti: Yn wir, beth yn dy fywyd ddylai gael mwy o flaenoriaeth, na darllen Gair Duw “byw a gweithgar” (Hebreaid 4:12)? Dydw i ddim yn meddwl y gellir fyth dweud hyn ddigon aml: Mae Gair Duw yn newid popeth.
Nid yw darllen y Beibl i fod i deimlo fel tasg. Dyma lle dŷn ni'n dod ar draws Gair pwerus Duw, ac mae'n un o'r ffyrdd y mae e’n siarad â ni. Felly, pam na fyddem ni eisiau bod mewn proses gyson o gyfathrebu â Duw, gan ganiatáu iddo ein hadeiladu ni a'n mireinio? Un ateb: Satan. Y peth olaf y mae’r gelyn ei eisiau yw inni roi Gair Duw yn gyntaf yn ein bywydau. Felly mae’n “prowla o gwmpas fel llew yn rhuo” (1 Pedr 5:8), gan wneud popeth o fewn ei allu i dynnu ein sylw, dweud celwydd wrthym, a gwneud inni deimlo ei bod yn iawn peidio â gwneud y Beibl yn flaenoriaeth.
Fel y gwyddom oll, gall ein ffonau fod yn un o'r pethau sy'n tynnu sylw mwyaf yn ein bywydau! Ond un ffordd y gelli di ddefnyddio dy ffôn er gwell yw gosod nodyn atgoffa cylchol sy'n dweud rhywbeth fel, "Wyt ti wedi darllen y peth pwysicaf yn y byd eto heddiw?"
Darllen ein Beiblau yw ewyllys 100 y cant Duw ar gyfer ein bywydau, felly os gofynnwn iddo ein cryfhau i’w wneud yn feunyddiol, gallwn fod yn hyderus ei fod yn ein clywed.
Arglwydd, dw i eisiau i ddarllen Dy Air fod yn rhywbeth dw i'n cyffroi yn ei gylch, rhywbeth sy'n dod â fi’n nes atat ti bob dydd. Diolch am siarad â fi trwy’r Beibl. Helpa fi i'th adnabod yn fwy. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.
More