Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Coda a Dos AtiSampl

Arise and Shine

DYDD 3 O 5

Nesáu at Dduw

Mae gweddi yn ffordd arall o nesáu at Dduw wrth inni ddod yn olau llachar iddo. Yn y Beibl mae’n dweud, “Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e. Ac os ydyn ni’n gwybod ei fod e’n gwrando arnon ni, dŷn ni’n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni’n gofyn amdano.” (1 Ioan 5:14-15). Gallwn ddod â’n holl boenau, gofidiau a hiraeth at draed Duw.

Mae gweddïo trwy lyfr y Salmau yn ffordd wych o gyfathrebu â Duw pan fyddi di'n brwydro i roi meddyliau mewn geiriau. Mae'r rhan fwyaf o'r salmau, fel Salm 139, yn weddïau a ysgrifennwyd gan eraill. Dw i'n ei chael hi'n ystyrlon iawn i gynnig yr un datganiadau a cheisiadau a weddïodd pobl fel y Brenin Dafydd ar Dduw. Gan fod y Salmau yn rhan o Air Duw, mae’n bwerus pan fyddwn ni’n gwneud y dewis hwnnw i’w gweddïo nhw - neu unrhyw adnod o’r Beibl - dros ein bywydau. Wrth inni edrych arno ddoe, mae'r Beibl yn fyw, yn weithgar, ac yn cyd-fynd â chalon yr Arglwydd.

Wrth inni nesáu at Dduw, dŷn ni'n dysgu pwyso arno fwyfwy. Mae stori Moses yn y Beibl yn ein hatgoffa o hyn. Yn Exodus 3:1-12, mae Duw yn ymddangos i Moses o'r tu mewn i lwyn llosgi. (Sylwa fod Duw yn ymddangos i Moses ar ffurf golau!) Yna mae’n galw ar Moses i ddod â’r bobl allan o’r Aifft - tasg anferth i’w chwblhau. Ymateb Moses oedd gofyn, “Fi? Pwy ydw i...?” Efallai y cei di’rr un ymateb hwnnw i'r alwad ar dy fywyd: Ond, Arglwydd, pwy ydw i?

Ymateb Duw i Moses oedd: “Bydda i gyda ti.” Fy ffrind, ym mhopeth a wnei di, mae'r Arglwydd gyda thi. Efallai dy fod yn amau dy alwad. Efallai y byddi di'n teimlo'n anghymwys i fynd i fod yn oleuni i Grist. Efallai na fyddi hyd yn oed eisiau ei wneud. Ond bydd yr Arglwydd gyda thi. Dyna addewid gan Dduw. Dwyt ti ddim yn cael dy alw i wneud dim o'r gwaith sanctaidd hwn ar ben dy hun, ond yn hytrach ochr yn ochr â'r Tad. Pan fyddi’n nesáu at yr Arglwydd, y mae ei lewyrch e’n disgleirio ohonot ti.

Arglwydd, dw i'n dod ger dy fron di heddiw â chalon yn awyddus i ddod yn nes atat ti. Fedraf i ddim gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Dw i angen dy nerth a'th ras. Amddiffyn fi, tywys fi, a dysg fi mwy amdanat dy hun. Amen.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Arise and Shine

Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/726918/arise-and-shine-by-allyson-golden/