Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dwyt ti Heb Orffen EtoSampl

You're Not Finished Yet

DYDD 5 O 5

Canolbwyntio ar dy Pam

Kylie yw fy ffrind hynaf ac anwylaf, ac fel cymaint o fy ffrindiau, mae hi'n rhedeg mewn rasys marathon yn aml. Dydw i ddim yn siŵr os ydw i'n byw trwyddyn nhw, ar ran rhywun arall, ond mae'n ymddangos fy mod wedi casglu llawer o ffrindiau sy'n caru rhedeg pellteroedd hir. Un peth dw i'n ei garu am Kylie yw'r ffaith ei bod hi'n dilyn yr un ddefod ym mhob ras marathon mae hi'n mynd i mewn iddi. Cyn gynted ag y bydd y gwn cychwyn yn tanio, mae hi'n dweud yn uchel, "Kylie, y cyfan sy'n rhaid i ti ei wneud yw gorffen."

Trwy gydol y ras, mae hi'n dweud hyn wrthi ei hun o leiaf ganwaith. Dydy hi ddim yn ceisio curo pawb, dydy hi ddim yn cymharu ei chyflymder â chyflymder pawb arall yn y ras, mae'n syml yn gosod ei chyflymder ei hun ac yn rhedeg ei ras. Ac yn bwysicaf oll, mae hi eisiau cyrraedd y llinell derfyn.

Mae’n wers mor wych i ni gyd. Os mai ein nod yw cael ein cydffurfio a'n trawsnewid i fod yn ddelw o Iesu, yna dod yn debycach i Iesu yw ein nod. Rhedeg ein ras, y ffordd y mae Iesu eisiau inni redeg ein ras, yw ein nod. Felly, dydyn ni ddim allan i guro unrhyw un arall; dydyn ni ddim allan i fod yn well na neb arall; dŷn ni'n gwneud ein gorau i fod yn debycach i Iesu.

Os byddwn yn anfwriadol yn cael ein llygaid oddi ar y wobr eithaf - Iesu - bydd ein llygaid yn disgyn ar bethau eraill fel pobl, statws, a hunan-foddhad, a byddwn yn colli cydbwysedd ac yn crwydro oddi ar y trywydd iawn. Os cymerwn ein llygaid oddi ar y nod, mae'n bosibl y byddwn yn datblygu meddylfryd nad yw pethau'n symud yn ddigon cyflym. Nad ydyn ni'n cael ein gwobrwyo na'n cydnabod yn ddigon buan. A gallem hyd yn oed yn anfwriadol ddadwreiddio ein hunain a cherdded allan o'n pwrpas.

I fod yn onest, yn ystod rhai o heriau mwyaf fy mywyd ac adegau anoddaf fy ngweinidogaeth - yr adegau hynny pan gefais fy hun yn meddwl, Pam ydw i'n gwneud hyn? ac roedd gen i ugain o resymau dilys dros roi'r gorau iddi - rwyf wedi gorfod ailffocysu fy hun ar y nod yn y pen draw, sef pryd a pham y galwodd Duw fi. Dyna sydd wedi fy nghynnal yn fy oriau tywyllaf. Dyna pam mae hynny'n fy helpu i barhau i redeg pan dw i ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.

Efallai mai dyma lle rwyt ti'n reslo heddiw. Efallai mai rhan o'r ateb yw ailganolbwyntio ar dy pam. Efallai mai mwy o’r ateb yw peidio â thynnu ein sylw at bethau tymor byr a fydd yn bodloni ein dymuniadau uniongyrchol, fel y gallwn orffen ein cwrs a chael ein gwobr. Gad inni ailffocysu ein llygaid a’n calonnau a’n meddyliau i fod ar Iesu. Gad inni fwriadu gorffen ein cwrs a’r weinidogaeth a gawsom gan Iesu, fel y sgwennodd Luc, er mwyn inni allu tystio i efengyl gras Duw.

Gweddi

Iesu, fy mhwrpas yw gorffen fy nghwrs a'r weinidogaeth a gefais gen ti. Help fi i gyrraedd y nod hwn. Helpa fi i gadw fy llygaid arnat ti, y wobr eithaf. Yn dy enw di, Amen.

Parhau ar dy Daith

Cymerwyd y cynllun darllen hwn o You’re Not Finished Yet gan Christine Caine. Darllena fwy yn ChristineCaine.com/Devo

Am y Cynllun hwn

You're Not Finished Yet

Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i fynd y pellter? I gerdded yn dy bwrpas ar gyfer y daith hir? Canol unrhyw ymdrech - gyrfa, perthnasoedd, gweinidogaeth, iechyd - yn aml yw pan fydd ein gwytnwch a'n dyfalbarhad yn siglo oherwydd bod yr eiliadau canol hynny yn aml yn flêr ac yn galed. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae Christine Caine yn ein hatgoffa y gallwn fynd y pellter - nid oherwydd bod gennym y cryfder ond oherwydd bod Duw yn gwneud hynny.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.christinecaine.com