Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dwyt ti Heb Orffen EtoSampl

You're Not Finished Yet

DYDD 2 O 5

Wnes di gael dy Greu i Symud Ymlaen

Mae arfbais Awstralia yn darlunio delwedd craff iawn, un sy'n annwyl i mi ers i mi gael fy ngeni a'm magu yn Awstralia ac oherwydd ei fod yn siarad cyfrolau â mi'n bersonol. Mae dau anifail yn cael eu portreadu yn dal tarian i fyny - y cangarŵ coch a'r emiw. Gawson nhw eu dewis, nid yn unig oherwydd eu bod yn frodorol i Awstralia, ond hefyd oherwydd iddyn nhw gael eu creu i symud ymlaen.

Mae'r emiw, aderyn mawr, fedrith ddim hedfan ychydig yn llai na'i gefnder yr estrys, yn adnabyddus am ei gyflymdra, yn gorchuddio cymaint â naw troedfedd mewn un cam pan yn rhedeg ar ei gyflymaf. Dyma'r unig aderyn sydd â chyhyrau coesau - sy’n debyg iawn i ddyn. Serch hynny, fedrith e ddim cerdded yn ôl. Dim ond symud ymlaen.

Mae'r cangarŵ coch - fel pob cangarŵ - yn symud trwy hercian, symudiad sy'n llythrennol olygu "llamu." Maen nhw’n gwthio i ffwrdd â'u dwy droed fawr ar yr un pryd ac yn defnyddio eu cynffonau i gadw cydbwysedd. Mae'r cyfuniad o'u coesau cyhyrog, eu traed mawr, a'u cynffonau yn helpu'r cangarŵs i symud ymlaen yn effeithiol. Ond eto, dim ond ymlaen allan nhw symud - nid yn ôl.

Pan fydda i'n meddwl amdanyn nhw, a'r ffaith eu bod nhw'n greaduriaid wnaeth Duw eu creu, sydd ddim yn gallu cerdded yn ôl, alla i ddim helpu ond meddwl amdanom ni - pobl a wnaed gan Dduw ar ei ddelw ei hun, rhyfeddod arall o'r greadigaeth wediein cynllunio i symud yr un ffordd.

Dw i’n deall bod angen i ni gamu’n ôl o bryd i’w gilydd a chofio’r gorffennol er mwyn inni allu symud ymlaen, ac mae bywyd weithiau’n ein taro a dŷn ni’n teimlo ein bod wedi mynd yn ôl, ond mae Duw yn ffyddlon i’n codi a’n cadw i symud ymlaen. Dŷn ni i gyd ar deithiau waeth ble dŷn ni. Mewn rhai tymhorau dŷn ni'n symud ymlaen yn gyflym, ac mewn tymhorau eraill dŷn ni'n symud yn arafach, Ond yn gyffredinol, dŷn ni'n dal i bwyso ymlaen. Er ein bod yn oedi ac edrych i'r gorffennol, dydyn ni ddim am fynd yn sownd yn y gorffennol, does bosib? Pa mor aml ydyn ni wedi caniatáu tymor o siom, loes, gwrthodiad, tramgwydd, neu ofn i’n hatal rhag symud ymlaen? Mae heddiw yn ddiwrnod da i gymryd llaw Iesu ac, fel yr emiw a’r cangarŵ coch, cymryd y cam nesaf ymlaen.

Gad inni gymryd cyngor Paul i’r Philipiaid, gan anghofio’r hyn sydd y tu ôl ac estyn ymlaen at yr hyn sydd o’n blaenau. Allwn ni ddim newid y gorffennol. Dim un tamaid. Ond gallwn effeithio ar ein dyfodol. Gallwn barhau i aros mewn ffydd, gan estyn am bopeth y mae Duw wedi'i gynllunio ar ein cyfer. Gallwn barhau i symud i'r unig gyfeiriad y cawsom ein creu i symud.

Yr emiw. Y cangarŵ coch. A thi. Pob un wedi ei greu i symud ymlaen. Byth yn ôl. Gad i ni fod pwy greodd Duw ni i fod er mwyn i ni allu gwneud popeth mae e wedi ein galw ni i'w wneud!

Gweddi

O Dad nefol, diolch i ti, hyd yn oed ym myd natur, rwyt ti’n rhoi enghreifftiau inni. Rwyt ti'n rhoi mewnwelediadau i ni. Helpa ni i symud y ffordd y cawsom ni’n creu i symud - ymlaen, a byth yn ôl. Yn enw Iesu, Amen.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

You're Not Finished Yet

Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i fynd y pellter? I gerdded yn dy bwrpas ar gyfer y daith hir? Canol unrhyw ymdrech - gyrfa, perthnasoedd, gweinidogaeth, iechyd - yn aml yw pan fydd ein gwytnwch a'n dyfalbarhad yn siglo oherwydd bod yr eiliadau canol hynny yn aml yn flêr ac yn galed. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae Christine Caine yn ein hatgoffa y gallwn fynd y pellter - nid oherwydd bod gennym y cryfder ond oherwydd bod Duw yn gwneud hynny.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.christinecaine.com