Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deall Ewyllys DuwSampl

Understanding God's Will

DYDD 3 O 3

Ar ddiwrnod 1 o’r cynllun hwn, wnaethon ni weld sut mae ewyllys Duw ar gyfer ein bywydau i fod yn debycach i Grist a sut dŷn ni i gyd yn cael ein galw i geisio yn gyntaf deyrnas Dduw a’i gyfiawnder e ac os gwnawn ni hynny, y cyfan y pethau eraill yn ein bywydau yr ydym yn poeni amdanyn nhw yn cael eu gofalu amdanyn nhw.

Ar ddiwrnod 2, wnaethon ni weld sut y bu i’r apostolion fyw allan ewyllys Duw trwy ei geisio e yn gyntaf ac yna dim ond cymryd camau ffydd trwy wneud pethau, Wnaethon ni weld sut yr oedd yr Ysbryd Glân yn eu harwain wrth iddyn nhw symud.

Welson ni hefyd sut y gallwn geisio Duw yn gyntaf trwy dreulio mwy o amser mewn gweddi, cael eraill i weddïo drosom, cymryd cyngor gan eraill, a cheisio ei ewyllys yn ei Air.

Nawr, mae'n hawdd cyrraedd y pwynt hwn a mynd, 'Ie, os ydw i'n deall ewyllys Duw, yna gallaf wneud yr hyn sy'n iawn a'r hyn sydd orau i mi o'r diwedd.' Y broblem yw nad yw hynny'n wir bob amser.

Ti’n gweld, dŷn ni'n meddwl mai'r broblem yw nad ydyn ni'n gwybod neu ddim yn deall ewyllys Duw, ond dro ar ôl tro, y broblem yw ein bod ni'n gwybod ewyllys Duw, a dŷn ni'n dod o hyd iddo, ac yn ei ddeall, ond dŷn ni ddim yn ei hoffi.

Mae cymaint ohonom yn darllen Gair Duw neu'n deall ei ewyllys penodol ar gyfer ein bywydau ac yn dweud, 'Does dim ffordd, ni all hynny fod, mae hynny'n llawer rhy anodd.'

Dŷn ni’n dechrau cael y meddyliau hyn sy'n dweud, 'Mae hynny'n ormod o lawer i roi'r gorau iddi,' neu falle, 'Na, ni all hynny fod yn Dduw. Ni fyddai Duw eisiau hynny. Doedd Duw ddim yn golygu hynny mewn gwirionedd, yn nag oedd?' neu 'Llyfr hen ffasiwn yw'r Beibl; nid yw'n berthnasol i ddiwylliant heddiw.'

Yn y diwedd dŷn ni'n galw'r darnau hynny o'r Ysgrythur yn ddarnau problemus, ac yn y pen draw dŷn ni'n ymddiried yn ein calonnau yn fwy nag dŷn ni'n ymddiried yn Nuw.

Nawr, falle fod hynny'n swnio fel peth neis, ond dydy e ddim go iawn. Ti’n gweld, does dim yn dy fywyd sy’n mynd i dy siomi gymaint â'th galon dy hun.

Dyma'r peth: cyn belled â'th fod di'n fyw, dwyt ti a Duw byth yn mynd i gytuno ar bopeth. Os yw Duw yn cytuno â thi ar bopeth, yna mae'n rhyw fath o syniad ffug gen ti o’r Duw rwyt ti'n ei addoli.

Meddylia mewn difrif. Os wyt ti’n darllen y cynllun Beiblaidd hwn, mae’n debyg dy fod tua 20 oed, neu 30, neu efallai 40, neu 50, neu falle hyd yn oed 60 oed.

Y mae Duw yn anfeidrol o ran oed; Does ganddo ddim dechreuad; fe yw'r dechrau. Y mae e’n holl ddoeth, yn hollalluog, ac yn holl wybodus.

Wyt ti wir yn meddwl os oes yna Dduw holl bwerus a holl ddoeth a holl wybodus sydd wedi bod yn rhedeg y bydysawd ers dechrau amser, na fydd unrhyw beth na fyddi di ac e yn anghytuno arnyn nhw?

Ac yn yr achosion hyn o anghytuno, pwy wyt ti'n meddwl sy'n mynd i fod yn gywir?

Gall fod yn frawychus dilyn Duw neu ufuddhau i’w Air, yn enwedig pan nad ydym yn ei ddeall. Ond mae'n rhaid i ni gofio bod ei ffyrdd cymaint yn uwch, ei feddyliau gymaint yn ddoethach, ac mae rhai pethau y mae'n gwybod nad ydyn ni'n gwybod amdanyn nhw. A phopeth mae'n ei wneud, mae'n ei wneud allan o gariad.

Rhoddodd Charles Spurgeon ef fel hyn:

Mae Duw yn rhy dda i fod yn angharedig, ac mae'n rhy ddoeth i fod yn anghywir. A phan na allwn olrhain ei law, rhaid inni ymddiried yn ei galon.

Felly falle ei bod hi'n bryd i ni ddechrau ymddiried yn Nuw yn fwy nag yr ydym ni'n ymddiried ynom ein hunain, gan ymddiried fod ganddo e ein lles pennaf yn ei galon, hyd yn oed pan nad ydym yn ei ddeall.

Falle ei bod hi'n bryd i ni adnabod y broblem go iawn: nid ein bod ni ddim yn deall ewyllys Duw, ond ein bod ni'n deall, a dydyn ni ddim yn ei hoffi. Ac yn yr achosion hyn, nid gydag e y mae'r broblem, ond gyda ni.

A dŷn ni'n cael gofyn iddo ein helpu ni. Dŷn ni'n cael gofyn iddo fod gyda ni wrth inni frwydro trwyddo a'n helpu ni i gredu. Ac fe gawn ni ymddiried yn ei gariad e, y gwna'n union hynny.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Understanding God's Will

Wyt ti erioed wedi bod mewn man lle rwyt ti wedi drysu ynghylch beth yw ewyllys Duw mewn sefyllfa benodol? Mae'r cynllun 3 diwrnod hwn yn archwilio sut y gallwn ddarganfod ei ewyllys - ei ewyllys cyffredinol, a'i ewyllys penodol ar gyfer ein bywydau.

More

Hoffem ddiolch i Awe & Wonder am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://aweandwonder.in/