Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deall Ewyllys DuwSampl

Understanding God's Will

DYDD 1 O 3

Wyt ti erioed wedi bod mewn man lle rwyt ti wedi drysu ynglŷn â beth yw ewyllys Duw ar gyfer dy fywyd? Falle dy fod wedi bod eisiau gwybod a yw Duw eisiau i ti gymryd swydd benodol, gwneud cais i goleg penodol, neu a ddylet ti fod yn symud dinasoedd ai peidio.

Neu a ddylet ti fod yn gwneud y penderfyniad hwn neu'r penderfyniad arall.

A chyda chymaint o ddewisiadau o'th flaen, rwyt ti eisiau gwybod pa un yw'r llwybr gorau i'w gymryd. Rwyt yn troi at Dduw ac yn gobeithio y bydd yn dy arwain i wneud y dewis cywir a datgelu ei ewyllys.

Dŷn ni i gyd wedi bod yno. Dŷn ni i gyd wedi bod eisiau gwybod beth mae Duw eisiau gynnon ni a dŷn ni i gyd wedi bod eisiau gwneud y dewis iawn - y dewis gorau.

Felly dŷn ni wedi gofyn i Dduw am ei ewyllys a dŷn ni wedi aros iddo ymateb a rhoi arwydd i ni.

Falle ein bod ni hyd yn oed wedi gobeithio y byddai e’n rhoi neges i ni yn y cymylau mewn LLYTHYRAU MAWR. Mae'n bur debyg na fydd hynny'n digwydd.

Mae ewyllys Duw ar gyfer ein bywydau yn eithaf clir serch hynny. Y mae wedi ei sgwennu yn ei Air - lawer gwaith.

" Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.." - 1 Thesaloniaid 5:18
"3 Mae Duw am i chi fyw bywydau glân sy'n dangos eich bod chi'n perthyn iddo..." - 1 Thesaloniaid 4:3
"Mae Duw eisiau i chi wneud daioni i gau cegau'r bobl ffôl sy'n deall dim.” - 1 Pedr 2:15
"Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw." - Micha 6:8
"O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud." - Rhufeiniaid 12:2

Ydy'r adnodau hyn i gyd yn dy helpu'r funud hon?

Falle, falle ddim.

Mae'n ymddangos bod yr adnodau hyn yn eithaf cyffredinol am sut dŷn ni i fod i fyw ein bywydau, a falle bod gen ti broblem benodol.

Rwyt ti eisiau gwybod beth yw ewyllys Duw i wneud y dewis gorau yn dy sefyllfa benodol.

Wel, yn y lle cyntaf.

Mae Duw yn poeni llawer mwy am ein cymeriad tymor hir na'n hapusrwydd tymor byr, ac mae hynny'n beth da!

Oherwydd bydd popeth yn y bywyd hwn yn diflannu oni bai am ein tebygrwydd i Grist.

Nawr os yw hynny'n dy boeni di ac os byddai'n llawer gwell gen ti gael atebion i ba ddewis sydd angen i ti ei wneud dros wybod beth yw ewyllys Duw ar gyfer dy fywyd, yna dw i'n gobeithio dy fod yn darllen hwn, gan wybod ein bod ni wedi ei sgwennu gyda’n cariad atat ti mewn golwg. -

Onid dyna'r broblem?

Onid y broblem yw y byddai'n llawer gwell gennym ni gael atebion cyflym na bod yr hyn mae Duw eisiau inni fod?

Dwedodd Iesu ei hun, " Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd."

Bydd yr holl bethau hyn - yr holl atebion i'r cwestiynau sydd gynnon ni am y dewisiadau y mae angen inni eu gwneud, neu am beth yw ewyllys Duw, a'r pethau hyn dŷn ni’n poeni cymaint yn eu cylch - yn cael eu hychwanegu atom yn ei amser e.

Y weddi yw, "Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd. "

Nid "dw i eisiau teyrnasu”, na “dyma dw i ei eisiau."

Ei ewyllys i ni yw dod yn debycach iddo, a does dim byd gwell na hynny mewn gwirionedd. Gallwn ymddiried ynddo ar hynny, a gallwn ymddiried y bydd yn gofalu am y gweddill.

Nawr falle dy fod wedi bod yn chwilio am ateb i beth yw ewyllys penodol Duw ar gyfer dy fywyd, a phaid â phoeni - byddwn yn siarad am hynny yfory.

Ond am y tro, dim ond gwybod hyn - bod Duw yn dy garu ac mae hynny'n wirionedd pwysig. Oherwydd os yw Duw yn dy garu, mae wir eisiau'r gorau i ti. Ac mae e eisiau i ti fod y gorau - nid yn unig y gorau y gelli di fod, ond y gorau y mae e wedi dy wneud di i fod.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Understanding God's Will

Wyt ti erioed wedi bod mewn man lle rwyt ti wedi drysu ynghylch beth yw ewyllys Duw mewn sefyllfa benodol? Mae'r cynllun 3 diwrnod hwn yn archwilio sut y gallwn ddarganfod ei ewyllys - ei ewyllys cyffredinol, a'i ewyllys penodol ar gyfer ein bywydau.

More

Hoffem ddiolch i Awe & Wonder am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://aweandwonder.in/