Deall Ewyllys DuwSampl
Ar ddiwrnod cyntaf y cynllun hwn, wnaethon ni weld beth yw ewyllys Duw ar gyfer ein bywydau. Wnaethon ni weld sut mae Duw yn poeni llawer mwy am ein cymeriad hirdymor na'n hapusrwydd tymor byr. Ei ewyllys e am ein bywydau yw i ni ddod yn debycach i Grist, a chyhyd ag y byddwn yn ceisio yn gyntaf deyrnas Duw a'i gyfiawnder e, bydd pob peth arall yn syrthio i'w le.
Gad i ni ddweud dy fod di yno, gad i ni ddweud dy fod wedi gwneud Duw yn brif flaenoriaeth i ti, rwyt ti wedi bod yn ei geisio'n llwyr, ac rwyt ti wedi ildio dy fywyd a'th ewyllys iddo.
Beth sy'n digwydd wedyn?
Wel, falle y byddi dii dal eisiau gwybod ewyllys Duw ar dy gyfer mewn sefyllfaoedd penodol yn dy fywyd, fel dy swydd, dy waith, dy astudiaethau, neu dy berthnasoedd. Falle dy fod yn aros am arweiniad, sibrwd, arwydd, neu ryw gyfeiriad ganddo.
Weithiau byddwn yn ei gael, weithiau fyddwn ni ddim.
Beth wyt ti'n ei wneud pan nad wyt ti'n clywed dim byd ganddo? Rwyt ti'n gwneud yr hyn a wnaeth yr apostolion.
Yr oedd Paul a'i gymdeithion yn teithio trwy holl ranbarth Phrygia a Galatia, wedi eu cadw gan yr Ysbryd Glân rhag pregethu y gair yn nhalaith Asia. Pan ddaethon nhw at ffin Mysia, dyma nhw'n ceisio mynd i mewn i Bithynia, ond doedd Ysbryd Iesu ddim yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny. Felly aethon nhw heibio Mysia a mynd i lawr i Troas. Yn ystod y nos cafodd Paul weledigaeth o ŵr o Facedonia yn sefyll ac yn erfyn arno, “Tyrd draw i Macedonia i'n helpu ni!” Felly, o ganlyniad i'r weledigaeth yma, dyma ni'n paratoi i fynd i Macedonia ar unwaith. Roedden ni wedi dod i'r casgliad mai yno roedd Duw am i ni fynd i gyhoeddi'r newyddion da. - Actau 16:6-10
Yr oedd Paul yr apostol, a oedd yn sicr yn ceisio Duw yn gyntaf, ac os oedd angen arweiniad ar unrhyw un yn y pwynt hwn, fe oedd ei angen; oherwydd ei fod ar y genhadaeth fawr hon i ddweud wrth y byd am Iesu.
Felly dyma beth wnaeth e. Dywedodd, "Awn i'r lle hwn a elwir Bithynia i bregethu'r efengyl," a'r Ysbryd Glân yn dweud na. Felly mae'n dweud, 'Iawn, gadewch i ni fynd i'r dalaith hon a elwir Asia,' a phan fydd yn cyrraedd yno, mae'r Ysbryd Glân yn dweud na eto. (Sut yn union? Wyddon ni ddim. Ond y pwynt yw bod rhwystr amlwg a oedd yn atal Paul rhag mynd i'r lleoedd hyn)
Felly mae'n mynd tua'r môr i ddinas Troas.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti erioed wedi bod mewn man lle rwyt ti wedi drysu ynghylch beth yw ewyllys Duw mewn sefyllfa benodol? Mae'r cynllun 3 diwrnod hwn yn archwilio sut y gallwn ddarganfod ei ewyllys - ei ewyllys cyffredinol, a'i ewyllys penodol ar gyfer ein bywydau.
More