Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pais setlo am SaffSampl

Don't Settle For Safe

DYDD 3 O 3

Byw dy Hunaniaeth Go Iawn

Mae popeth sydd ei angen arnat i fod yn brydferth, yn llwyddiannus, yn anhygoel, wedi dy fendithio, cael dy drystio, cael dy barchu, dy anrhydeddu, a bod yn hapus, eisoes yn dy fywyd. Falle nad yw’n edrych felly, ond mae hynny am dy fod yn ffocysu ar y pethau anghywir. Mae unrhyw beth sy’n ymddangos yn gynnar, mewn perygl o gymhlethdodau. Yn syml, y cymhlethdodau wnest ti eu hwynebu a gwneud iti stopio credu, yw’r pethau gododd i’r wyneb o flaen eu hamser. Eto, roedd Duw’n ddigon caredig i ddysgu gwers i ti o’r daith honno wnaeth dy wneud yn well ar gyfer ei ddefnydd.

Paid trio rheoli dy fywyd dy hun. Rheola’r rhannau o’th fywyd rwyt ti’n adnabod yn well nag e. Trystia os nad oes rhywbeth gen ti’n barod, ei fod oherwydd nad wyt yn barod ar ei gyfer. Creda, os yw ar dy blât, mi fedri di ei drin. Stopia amau dy nerth a phrofi gras. Paid gwneud beth sy’n teimlo’n iawn; gwna beth sy’n dy wneud yn berson gwell. Gallai hynny olygu bod angen lefel newydd o ddisgyblaeth arnat neu lefel ddyfnach o fod yn fregus. Bydd yna ddewisiadau rifedi fydd yn caniatáu i ti ddianc o dy ansicrwydd. Paid defnyddio nhw. Yn lle, edrycha ar dy ansicrwydd am yr hyn yw, lle ble all cariad lenwi’r gofod. Câr dy hun ddigon fel bod rhaid i’r ansicrwydd droi’n hyfryd.

Bydd yn amyneddgar. Unwaith y byddi di’n cyrraedd y man sydd yn dy feddwl, fe weli fod gwaith eto i’w wneud. Yna byddi’n dymuno i amser arafu digon iti fwynhau’r olygfa. Tyrd o hyd i rywbeth hyfryd am fywyd bob dydd. Edrycha tu hwnt i’r biliau, y tor calon, y fam sy’n marw, y tad absennol, y plentyn gwyllt, a’r breuddwydion fethodd. Gwêl yr hyfrydwch o gael diwrnod arall, cyfle arall. Dewisa i beidio addoli’r ffordd y dylai pethau wedi bod. Addola Dduw am wybod nad oeddet ti’n barod.

Pan fyddi’n dechrau ffeindio dy hunaniaeth go iawn, bydd pobl yn dal i chwilio am lewyrch o’r hen ynot ti. Bydd rhai’n aflwyddiannus, bydd eraill yn fodlon gyda dod i adnabod y newydd ynot ti. Cynhalia wasanaeth coffa ar gyfer y rhai hynny sydd eisiau dal gafael i dy gamgymeriadau a phenderfyniadau anghywir. Os mai dyna yw’r cwbl maen nhw’n dewis ei weld, yna, dylen nhw ddim cael mynediad at fendith dy daith. Dydyn nhw ddim yn ddieflig. Maen nhw’n doredig. Fodd bynnag does dim rhaid iti adael iddyn nhw dy dorri di hefyd. Does dim rhaid iti golli dy hun wrth drio eu hachub nhw. Bydd yn ddigon cryf i ddewis dy hun.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Don't Settle For Safe

Os na chaiff lleisiau o ansicrwydd ac amheuaeth eu herio byddan nhw’n rheoli dy fywyd. Fedri di ddim tawelu’r lleisiau hyn na’u hanwybyddu. Yn y cynllun darllen tri diwrnod hwn, mae Sarah Jakes Roberts yn dangos iti sut i herio cyfyngiadau dy orffennol a chofleidio’r hyn sy’n anghyfforddus er mwyn bod yn ddigyfnewid.

More

Hoffem ddiolch i Sarah Jakes Roberts and Thomas Nelson am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bit.ly/YV-DontSettleforSafe