Pais setlo am SaffSampl
Dim mwy o Esgusodion
Mae’r rhan fwyaf o bobl oedd yn stryglo i oroesi eu hofnau brofiad o siomedigaeth mor fawr fel bod pob breuddwyd y gallen nhw feddwl amdano wedi’i halogi â phryder gwenwynig methiant. Pan mae dy feddwl yn cael ei orlwytho gyda’r posibiliadau o “beth os,” does dim lle i ffydd. Mae byw bywyd gan baratoi at y canlyniad gwaethaf posib fel byw mewn cell - dydy e ddim yn rhyddid. Dros amser fe wnei di adnabod y gwahaniaeth rhwng amddiffyn dy galon a’i chyfyngu. Wnei di ddysgu stopio rhag gwrando ar y llais sy’n dy rwystro rhag cael y pethau da mae Duw wedi’u haddo i bawb sy’n byw yn ôl ei bwrpas.
Fyddi di, fy ffrind oroesodd, ddim yn setlo am fywyd wedi’i bennu gan ansicrwydd neu brofiadau o’r gorffennol. Mae gen ti fynediad at bŵer sy’n gallu gweithio o’th fewn i dy ryddhau o unrhyw garchar meddyliol neu emosiynol sydd wedi dy argyhoeddi nad oes bywyd gwell o fewn dy gyrraedd, Fedrwn ni ddim gwneud defnydd o’r pŵer hwnnw a dal gafael ar esgusodion ar yr un pryd. Rhaid i’th galon meddwl, a dwylo fod yn rhydd i weithredu ar y cyfan sydd o’th flaen.
Mae cael gwared ar esgusodion yn ddisgyblaeth rhaid ei hymarfer gydag ein meddyliau, cyfathrebu a’n gweithredoedd. Nid oes ond lle i iaith sy’n datgan: Gwnaf! Mae tyfiant yn digwydd pan fyddwn ni’n wynebu ein profiadau personol a sut maen nhw wedi ein newid. Gelli greu patrwm newydd a symud mlaen gyda phenderfyniad fel erioed o’r blaen, ond mae’n rhaid iti ddysgu beth wnaeth dy stopio yn y gorffennol. Os yw'r her i wella a dod yn gyfan wedi'i chyhoeddi gan bobl heblaw ti dy hun, yna bydd angen caniatâd bob amser ar dy daith cyn symud ymlaen.
Paid gadael i’th dynged gael ei phennu gan ddemocratiaeth. Falle na fydd dy gysylltiadau agosaf yn gwybod sut i’th arwain drwy dy dorcalon neu, yn waeth na hynny, falle bod nhw angen cwmnïaeth dy ddioddefaint i dynnu eu sylw o’u hangen nhw eu hunain am wellhad. Dylet osgoi’r demtasiwn i wneud eich iachâd yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad gan bobl eraill.
Mae’r bont o’r hyn oeddet o’r blaen i bwy mae Duw wedi dy alw i fod yn cael ei greu o frics dy fregusrwydd, gostyngeiddrwydd mor gryf â morter, a phrif gynllun mor berffaith, bydd hyd yn oed y pethau a fu unwaith yn brifo yn dy wneud yn well. Mae dy barodrwydd i ollwng gafael ar yr esgusodion ac addo symud ymlaen newydd osod y fricsen gyntaf, ond mae gwaith i'w wneud o hyd.
Am y Cynllun hwn
Os na chaiff lleisiau o ansicrwydd ac amheuaeth eu herio byddan nhw’n rheoli dy fywyd. Fedri di ddim tawelu’r lleisiau hyn na’u hanwybyddu. Yn y cynllun darllen tri diwrnod hwn, mae Sarah Jakes Roberts yn dangos iti sut i herio cyfyngiadau dy orffennol a chofleidio’r hyn sy’n anghyfforddus er mwyn bod yn ddigyfnewid.
More