Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pais setlo am SaffSampl

Don't Settle For Safe

DYDD 2 O 3

Beth yw dy Batrymau?

Wyt ti erioed wedi cymryd amser i ystyried dy batrymau emosiynol dy hun? Ystyria’r meddyliau sy’n ailadrodd eu hunain ac yn creu emosiynau sy’n codi i’r wyneb dro ar ôl tro, ac yn arwain i weithredoedd parhaus. Bydd yr angen i ddeall y patrymau hynny angen agor drysau tywyllaf ein calon a chwalu’r atgofion oedden ni’n meddwl oedd wedi’u claddu. Rhaid i ni ddechrau gofyn i’n hunain: Pam fod hyn wedi digwydd i mi? Beth wnaeth e ddysgu i mi? Sut dw i’n ei rwystro rhag digwydd eto?

Wrth gwrs, dydy pob patrwm ddim yn ddrwg. Mae rhai patrymau mor rhinweddol fel y dylen nhw gael ei mireinio a’u cynnal am oes. Y rhodd fwyaf y gelli roi i ti dy hun yw’r gallu i adnabod patrymau sydd wedi creu themâu yn dy fywyd. Falle na fydd y patrymau hynny’n diflannu’n llwyr, ond mae’n bosib y gallet ti ddechrau eu hadnabod a dwyn y pŵer sydd ganddyn nhw i reoli dy fywyd.

Dw i wedi gorfod gweithio’n galed dros ben i ddiffinio fy emosiynau a’u ddiffinio fy emosiynau a’u mynegi nhw pan fo angen. Pan fyddi’n sylwi ar symudiad yn dy hwyliau, cymer ennyd i ystyried beth arweiniodd at y symudiad. Paid dim ond ei ddiystyru fel dy fod wedi crwydro. Tyrd o hyd i wreiddyn yr hyn sy’n dy rwystro rhag cael llawenydd llwyr. Byddet ti’n synnu cymaint y gall mynegi’r emosiynau hynny dy leddfu.

Fedri di gofio rhannau o dy fywyd ble wnes di deimlo cywilydd, poen, neu embaras? A yw’r atgofion hynny’n gysylltiedig â rhain? Sut wnaeth y persbectif ohonot ti dy hun newid o ganlyniad i hynny? Mae adnabod wreiddyn dy batrwm yw’r unig ffordd i’w waredu o dy fywyd. Waith y byddi’n dechrau adnabod rhai o’r patrymau afiach sy’n gysylltiedig â dy fywyd mae’n rhaid i ti amddiffyn yn eu herbyn. Bydd rhaid i’r amddiffyniad hwnnw ddod ar ffurf brwydro yn erbyn meddyliau neu emosiynau hynny gyda meddwl iachach fydd yn drech.

Mae bod yn fregus gyda Duw yn rhyddhau’r pŵer sydd gan negyddiaeth dros dy fywyd. Mae yna rai materion yn ein bywydau’n rhy fawr i ni ddelio â nhw ar ben ein hunain. Mae angen ymyrraeth ddwyfol i’n hatgoffa fod yna adnodd ar gael i ni sy’n disodli’r rhwystrau sydd o’n gwmpas. Dwyt ti ddim yn ymladd y frwydr hon ar ben dy hun. Mae gan Dduw gynllun perffaith ac ewyllys ar gyfer dy fywyd. Trystia ei gynllun, sy’n cynnwys, llawenydd, heddwch, a chariad. Dyna’r meddylfryd trawsnewidiol sy’n darparu golau yn y twneli tywyllaf.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Don't Settle For Safe

Os na chaiff lleisiau o ansicrwydd ac amheuaeth eu herio byddan nhw’n rheoli dy fywyd. Fedri di ddim tawelu’r lleisiau hyn na’u hanwybyddu. Yn y cynllun darllen tri diwrnod hwn, mae Sarah Jakes Roberts yn dangos iti sut i herio cyfyngiadau dy orffennol a chofleidio’r hyn sy’n anghyfforddus er mwyn bod yn ddigyfnewid.

More

Hoffem ddiolch i Sarah Jakes Roberts and Thomas Nelson am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bit.ly/YV-DontSettleforSafe