Cyfarwyddyd DwyfolSampl
Cysylltu
Pan sylweddolais i fy mod wedi fy ngwneud, nid yn unig i wasanaethu yn yr eglwys, ond i wasanaethu eraill fel yr eglwys, daeth cysylltu â bobol yn flaenoriaeth. Fedri di ddim gwasanaethu heb gysylltu. A bydd y rhai rwyt yn cysylltu â nhw'n newid y storïau y byddi'n eu hadrodd yfory. Mae hyn wedi bod yn wir drwy hanes. Ystyria'r dyn sgwennodd fwy na thraean o'r Testament Newydd, yr apostol Paul.
Nid oedd Paul bob amser yn Gristion. Cyn iddo fod yn un o ddilynwyr Iesu, roedd yn Saul o ddinas o'r enw Tarsus, dyn blin a oedd yn erlid ac yn lladd Cristnogion. Os nad oeddet yn hoff o ddilynwyr Iesu, byddet ti wedi hoffi Saul. Ond ar ôl lladd y rhai oedd yn credu fod Iesu wedi'i atgyfodi, trodd Paul yn un ei hun.
Roedd ei drawsnewidiad e mor fawr, mor radical, yn newid bywyd llwyr, fel bod Saul (newidiodd ei enw i Paul) eisiau dweud wrth eraill am Iesu ar unwaith. Y broblem oedd nad oedd Cristnogion yn ei drystio, am resymau amlwg.
Mae Llyfr yr Actau yn ei roi'n blaen:Pan gyrhaeddodd [Saul] Jerwsalem, ceisiodd fynd at y credinwyr yno, ond roedd ganddyn nhw ei ofn. Doedden nhw ddim yn credu ei fod wedi dod yn Gristion go iawn. Actau, pennod 9, adnod 26 beibl.net. Fedri ddim beio'r disgyblion am eu amheuaeth. Faswn i ddim eisiau u dyn laddodd Gristnogion y mis diwethaf yn arwain astudiaeth Beiblaidd. A fyddet ti?
Roedd gan Paul broblem. Doedd gan Cristnogion ddim hygrededd ynddo. Felly fe wnaeth Paul estyn allan at unrhyw un oedd yn barod i roi cyfle iddo rannu ei angerdd newydd. Fe wnaeth penderfyniad Paul i gysylltu nid yn unig newid ei stori; fe newidiodd hanes. Ti'n gweld, roedd Paul un ffrind i ffwrdd o newid cwrs ei dynged. A''r ffrind hwnnw oedd dyn o'r enw Barnabas.
Falle dy fod di un ffrind i ffwrdd o newid dy stori.
Heddiw byddi'n darllen am yr amser pan fentrodd Barnabas fynd â Paul i gwrdd yr apostolion, oedd yn arweinwyr ar y bobl roedd Paul wedi bod yn ceisio eu lladd yn ei fywyd blaenorol. Beth ddigwyddodd? Mentrodd Barnabas, ei enw da, ar ran Paul. Oherwydd Barnabas, penderfynodd y disgyblion eraill roi cyfle i Paul. Mae'r gweddill yn hanes. Falle dy fod di un ffrind i ffwrdd o newid dy stori.
Rwyt un ffrind i ffwrdd o briodas gwell. Rwyt un cyfaddefiad i ffwrdd o oresgyn dibyniaeth. Rwyt un sgwrs i ffwrdd o fod mewn gwell cyflwr. Rwyt un cam i ffwrdd o fentor fydd yn dy helpu i adnabod dy roddion a dod yn arweinydd gwell.
Gofynna i ti dy hun:Beth sydd angen imi ei wneud i gysylltu â'r bobl gywir/ A oes yna rywun y dylwn i ddatgysylltu oddi wrthyn nhw?
Am y Cynllun hwn
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.
More