Cyfarwyddyd DwyfolSampl
Dechrau
Pob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n gadael i egwyddorion ddwyfol arwain y dewisiadau hynny. Dros yr wythnos nesaf, fe wnawn ni ddechrau archwilio i saith egwyddor o lyfr Divine Direction i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer y penderfyniadau dyddiol.
Pe byddai rywun yn gofyn i ti adrodd stori dy fywyd, beth fyddet ti'n ei ddweud?
Falle mai dechrau gyda ble ges ti dy eni a;th fagu fyddet ti. O bosib byddet ti'n sôn am dy gariad cyntaf. Falle byddet ti'n sôn am symud cartref gyda'r teulu neu pan es ti i'r coleg. Os wyt ti'n briod, fyddet ti'n sôn, o bosib, am dy briod. Os nad wyt ti'n briod, allet ti esbonio pam. Os wyt ti'n riant, dangos lluniau o'th deulu fyddet ti mae'n siŵr. Neu falle byddet ti'n sôn am dy yrfa. Beth yw stori dy fywyd?
Mae gan y rhan fwyaf ohonom benodau y bydde'n well gynnon ni beidio eu rhannu â neb. Falle dy fod wedi cyrraedd i fan nad oedd unrhyw fwriad gen ti fod yno. Wnest ti ddim meddwl gwneud llanast o bethau, ond dyna ddigwyddodd. Fe wnest ti benderfyniadau aeth â ti ymhellach nad oeddet wedi'i fwriadu. Fe wnest ti bethau gostiodd gymaint mwy i ti nad oeddet ti wedi meddwl ei wario. Fe wnest ti frifo pobl. Fe wnest ti gyfaddawdu ar dy werthoedd. Fe wnest ti dorri addewidion. Fe wnest ti bethau nad wyt yn meddwl y gellir eu dadwneud.
Nid yw dy stori ar ben. dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid y stori y byddi di'n adrodd ryw ddydd.
Mae yna newyddion da: dydy dy stori ddim drosodd. Dydy hi ddim yn rhy hwyr i newid y stori y byddi di'n adrodd ryw ddydd. er gwaethaf beth rwyt wedi'i wneud (neu heb ei wneud), nid yw dy ddyfodol wedi'i sgwennu eto. Mae gen ti fwy o fuddugoliaethau o'th flaen, mwy o ffrindiau i'w cwrdd, cyfle i wneud gwahaniaeth, mwy o ddaioni Duw i'w brofi. Pa un ai os wyt yn hoffi'r cynllun presennol a'i peidio, gyda help Duw, gelli drawsnewid dy stori i un y byddi'n falch i'w rhannu.
Dyma un ffordd i newid dy stori: ddechreua rywbeth newydd.
Waeth pa mor ansicr, ofnus, di-gyfeiriad rwyt yn teimlo ar hyn o bryd. mae dy stori'n parhau heddiw. Beth fyddi di'n ei ddechrau heddiw? Gweddïo bob dydd gyda'th gymar? Darllen cynllun Beibl YouVersion bob dydd? Mynd i gael cyngor am fater sydd heb ei ddatrys? Byw yn garedicach? Gwasanaethu'n dy eglwys neu dy gymuned? Nawr yw'r adeg i wneud rhestr. Gwna gofnod o'th feddyliau. Paid gorfeddwl hyn. Ond cymer amser i'w gofnodi'n iawn - mewn brawddeg neu ddwy.
Gofynna i ti dy hun:Beth sydd raid i mi ei wneud i ddechrau symud i gyfeiriad y stori dw i eisiau ei hadrodd?
dysga fwy am fy llyfr,Divine Direction
Mae'r Cynllun Beibl hwn wedi'i addasu o'r llyfr Divine Direction, gyda chaniatâd Zondervan. Mae'r cynnwys wedi'i fyrhau.
Am y Cynllun hwn
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.
More