Cyfarwyddyd DwyfolSampl
Aros
Dw i wedi meddwl sawl gwaith am pa mor wahanol fyddai fy mywyd petawn i wedi rhoi fyny pan o'n i eisiau. Gallai fy mywyd wedi bod yn, "O ia, ro'n i'n arfer meddwl mai gweinidog ddylwn i ei fod, a rois i dro arni, ond wnaeth hynny ddim gweithio allan. Dyna fel y mae hi."
Dw i'n sicr y bydd raid i ti ymladd efo heriau achlysurol yn ystod cyfnodau gwahanol o dy fywyd: pennaeth na fedri di gyd-weithio ag e mwyach, perthynas ble mae lot o boen, breuddwyd sy'n mynd ar chwâl, newid wnaeth ddim cyrraedd dy ddisgwyliadau. Pan wyt ti 'n wynebu anawsterau, mae'n naturiol i ail ystyried dy benderfyniadau anferth oedd i drawsnewid dy fywyd. O bosib dyma rai io'r cwestiynau fyddet ti'n ei ofyn.
- Ddylwn i fentro, rhoi gorau i'm swydd a chwilio am rywbeth arall?
- Ar ôl perthynas odinebus fy nghymar - a ydy hi'n amser i symud ymlaen?
- Ydw i ddigon abl i redeg busnes? ddylwn i roi'r gorau iddi cyn i'r sefyllfa waethygu?
Ym mhob un o'r enghreifftiau hyn - a chyda'r rhan helaeth o ddewisiadau bywyd - rwyt ar groesffordd tyngedfennol, ac mae'n amser penderfynu os dylwn i aros neu gerdded i ffwrdd?
Ydw i'n dewis i roi fyny gan mai dyna fyddai orau neu oherwydd bod gadael yn ddewis haws?
Yn amlach na pheidio, y dewis mwyaf gwerthfawr yw aros ar y trywydd, er y byddai'n haws o lawer i gerdded i ffwrdd. Dw i ddim yn dweud na fydd raid i ti fyth gerdded i ffwrdd. Ond, cyn i ti benderfynu, gofynna i ti dy hun, "Ydw i'n dewis rhoi fyny am mai dyna yw'r peth iawn i wneud, neu mae'n edrych fel y byddai'n haws gadael?" Weithiau, y weithred fwyaf o ffydd yw ffyddlondeb, ac aros ble rwyt wedi cael dy blannu. Flynyddoedd o nawr, o bosib byddi'n edrych yn ôl ac yn diolch i dduw dy fod wedi aros, pan y byddai wedi bod yn haws gadael.
Cofia, fe wnaeth Duw ti'n ddelw ohono'i hun. ac e yw awdur a therfynwr dy stori. Dwyt ti ddim yn un sy'n rhoi'r gorau iddi. Rwyt yn orffenwr.
Gweddïa: Dduw, oes yna rywbeth dw i'n cerdded i ffwrdd oddi wrtho rwyt ti eisiau imi ei orffen? A wnei di roi i mi dy nerth i ddal ati\/ Amen.
Am y Cynllun hwn
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.
More