Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Siarad â Duw drwy weddiSampl

Talking With God In Prayer

DYDD 4 O 4

HIRAETH AM DDUW

SIARAD À DUW
Diolcha i dduw ei fod yn dy garu ac eisiau i ti ddysgu sut i siarad ag ef drwy weddi. Gofynna i Dduw ddysgu i ti sut i weddïo.

DEIFIO I MEWN
Gwna dri set o gardiau nodiadau gyda'r geiriau canlynol arnyn nhw: taid neu nain, ffrind gorau, dy weinidog, gweithiwr siop, a cefnder cymydog. Trefna nhw o'r person rwyt yn siarad fwyaf â nhw ar y top hyd at yr un rwyt yn siarad lleiaf â nhw ar y gwaelod. Trefna'r ail set fwy neu lai'n yr un ffordd, o'r person rwyt am fod yn eu cwmni fwyaf. Gosoda'r trydydd set yn ymyl y ddau arall, gan ddechrau gyda'r person rwyt yn eu colli fwyaf gyntaf. Cymhara pa mor debyg yw'r rhestrau.

MYND YN DDYFNACH
Y cwbl yw gweddi yw siarad â duw, sy'n dy garu ac eisiau beth sydd orau i ti. Yn union fel pan rwyt ti'n colli rywun rwyt yn ei garu/ei charu pan fyddan nhw wedi mynd, mae dy enaid yn colli Duw pan nad wyt yn siarad ag e. Mae'r Beibl yn dweud yn aml fod yr hiraeth hwn i fod gyda Duw fel bod yn sychedig neu llwglyd. Darllena Salm 42, adnodau 1 i 2: "Fel hydd yn brefu am ddiod o ddŵr, dw i'n hiraethu go iawn amdanat ti, O Dduw. Mae gen i syched am Dduw, y Duw byw; O, pryd ga i fynd eto i sefyll o'i flaen yn ei deml?"
Rwyt yn gallu mynd at Dduw mewn gweddi, yn union fel mae carw'n mynd at nant pan mae e'n sychedig.

SIARAD Â'N GILYDD
- Beth wyt ti'n feddwl amdano pan rwyt ti'n llwglyd neu sychedig?
- Sut mae bod gyda Duw yn debyg i fod gyda'r person rwyt yn ei garu? Sut mae e'n wahanol?
- Sut wyt ti'n gwybod fod dy enaid yn sychedig i fod gyda Duw?

Ysgrythur

Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Talking With God In Prayer

Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywed gynnon ni a sut y gall gweddi gryfhau ein perthynas â'n gilydd. Mae pob dydd yn cynnwys awgrym gweddi, darlleniad byr o'r Beibl ac esboniad, gweithgaredd, a thrafodaeth a chwestiynau.

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.FocusontheFamily.com