Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Siarad â Duw drwy weddiSampl

Talking With God In Prayer

DYDD 2 O 4

MOLI DUW DRWY WEDDI

SIARAD Â DUW
Mola Dduw am dy greu di a phopeth sydd gennyt, gan gynnwys bwyd, cartref a'r pobl sy'n dy garu.

PLYMIO I MEWN
Diolcha i Dduw am y pethau rwyt yn falch ohonyn nhw. Gwna restr o 10 ohonyn nhw. Dweda wrth rhywun pam rwyt yn falch ohonyn nhw a mola Dduw am y cyfan mae wedi'i roi i ti.

MYND YN DDYFNACH
Drwy weddïau o fawl byr sy'n ymwneud â bywyd bob dydd a phobl, dysga i foli Duw a dangos gwerthfawrogiad. Y munud y byddi'n deffro yn y bore gelli weddïo: "Diolch Dduw am fy llygaid. Diolch am fy ngolwg." Tra'n gwiso amdanat gallet weddïo "Diolch Dduw am dy ofal drosof - rhoi'r dillad yma imi eu gwisgo" ac wrth weld yr haul gallet ddweud, "Dduw rwyt mor wych!" Diolch am dy greadigaeth." Mae salm 1455:1-2 yn esiampl o sut i foli Duw: " Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin, a bendithio dy enw di am byth bythoedd! Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd a dy foli di am byth bythoedd!" Mola Dduw heddiw a phob dydd!

SIARAD - Sut wnaeth gwneud rhestr o'r pethau rwyt yn falch ohonyn nhw newid dy agwedd?
-Tase ti'n moli Duw am bopeth mae wedi'i roi i ti pa mor hir fyddai hynny'n ei gymryd?
Sut tybed fyddai moli duw yn dy newid?
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Talking With God In Prayer

Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywed gynnon ni a sut y gall gweddi gryfhau ein perthynas â'n gilydd. Mae pob dydd yn cynnwys awgrym gweddi, darlleniad byr o'r Beibl ac esboniad, gweithgaredd, a thrafodaeth a chwestiynau.

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.FocusontheFamily.com