Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Siarad â Duw drwy weddiSampl

Talking With God In Prayer

DYDD 3 O 4

DERBYN MADDEUANT

SIARAD GYDA DUW
Cyffesa'n dawel y pethau hynny wnes ti sydd wedi brifo eraill. Gofynna i Dduw am faddeuant. Yna diolcha iddo am roi maddeuant i ti.

PLYMIO I MEWN
Yn ystod y pryd teuluol nesaf trefna fod pawb yn gwisgo plygiau clustiau neu glustffonau gan barhau i siarad ond peidio helpu eich gilydd i glywed beth sy'n cael ei ddweud. Gwisgwch nhw hefyd wrth glirio'r bwrdd fel teulu.

MYND YN DDYFNACH
Pan nad wyt tyn dod at dduw am faddeuant mae fel petaet yn gwrthod gwrando arno. Wrth beidio gwrando ar Dduw mae fel dy fod yn gwahanu dy hun oddi wrtho yn union fel y gwnes ti gyda'th deulu pan nad oeddet yn gallu clywed dy deulu. Darllena Salm :, "Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod.
Wnes i guddio dim byd, 'Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i,
ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl." Pan fyddi'n gofyn am faddeuant mae duw yn maddau i ti. Mae fel ei fod e'n tynnu'r plygiau o'th glustiau fel dy fod yn gallu ei glywed eto.

SIARAD GYDA'CH GILYDD
-Wyt ti erioed wedi cadw rhywbeth wnes ti yn gyfrinach? Os felly, sut oedd ceisio cadw'r hyn wnes ti yn gyfrinach yn gwneud i ti deimlo?
-Sut wyt ti'n teimlo pan fydd rhywun yn maddau i ti am wneud rhywbeth o'i le?

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Talking With God In Prayer

Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywed gynnon ni a sut y gall gweddi gryfhau ein perthynas â'n gilydd. Mae pob dydd yn cynnwys awgrym gweddi, darlleniad byr o'r Beibl ac esboniad, gweithgaredd, a thrafodaeth a chwestiynau.

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.FocusontheFamily.com