Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Heddwch DuwSampl

God's Peace

DYDD 3 O 4

CARTREF HEDDYCHLON

SIARAD I DDUW
Gofynna i Dduw am faddeuant pan wyt ti wedi brifo teimladau rhywun yn dy deulu neu wedi bod yn gas. Yna, diolcha i Dduw am dy berthynas gyda dy deulu a'th ffrindiau.

PLYMIO I MEWN
Defnyddia liwiau llachar i dynnu llun o gartref hefo haul braf ac adar ar y tu allan a chacennau, anrhegion a theulu ar y tu mewn. Yna defnyddia lliwiau tywyll i dynnu llun o ail gartref gyda cymylau duon a mellt tu allan a brodyr a chwiorydd sydd wedi ffraeo ar y tu mewn. Dos at i gymharu'r lluniau. Siarad ag eraill am pam fod un yn fwy heddychlon.

MYND YN DDYFNACH
Mae teuluoedd yn gymysgedd o gymeriadau gyda chymysgedd o bersonoliaethau ac emosiynau. Weithiau mae aelodau o'r teulu'n hapus ac ar droeon eraill yn teimlo'n ddig. Ddylai sut mae person yn teimlo ddim newid cartref heddychlon teulu. Mae Rhufeiniaid, pennod 12, adnod 18 yn dweud. "Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb." Mae'r sôn hwn am pawb yn cynnwys aelodau o'th deulu di. Mae cyd-dynnu â'r rhai'n dy deulu'n edrych fel gwaith caled ar rai dyddiau ond mae Diarhebion, pennod 17, adnod 1 yn dweud bod cartref heddychlon yn drysor o'r mwyaf, ac yn werth gweithio'n galed i'w gael, "Mae crystyn sych a thipyn o heddwch yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo."

SIARAD Â'N GILYDD
- Sut ddylet ti ymddwyn gyda aelodau o'th deulu?
- Beth wyt ti'n gallu ei wneud i fod yn gymodwr yn y teulu pan mae rywun yn ddig neu'n ofidus?
- Sut mae heddwch Duw'n gallu llenwi dy gartref pan mae yna anghytuno rhyngoch?

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

God's Peace

Mae Gair Duw'n dweud ei fod yn cynnig heddwch "y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg" (Philipiaid, pennod 4, adnod 7 beibl.net). Yn y cynllun pedwar diwrnod hwn byddi di a'th blant yn cymryd golwg agos ar y rhannau hynny o'n bywydau ble gallwn brofi'r heddwch hwnnw. Mae pob diwrnod yn cynnwys ysgogiad at weddi, darlleniad byr ac esboniad o'r Ysgrythur, gweithgaredd ymarferol, a chwestiynau trafod.

More

We would like to thank Focus on the Family for providing this plan. For more information, please visit: www.FocusontheFamily.com