Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Heddwch DuwSampl

God's Peace

DYDD 2 O 4

HEDDWCH DRWY DDILYN RHEOLAU DUW

SIARAD I DDUW
Dweda wrth Dduw beth wyt ti'n ei garu am ei Air. Dweda wrtho pam rwyt ti'n hoffi adnod neu stori benodol a diolcha iddo amdani.

PLYMIO I MEWN
Gyda mam neu dad yn sefyll gerllaw, ceisia gerdded o gwmpas yr ystafell yn gwisgo, esgidiau eira, flipyrs nofio, neu esgidiau sy'n rhy fawr. Pa mor bell elli di fynd heb faglu? Wyt ti'n meddwl y bydde hi'n syniad da i beidio gwisgo'r pethau hyn o gwmpas y tŷ. Esbonia.

MYND YN DDYFNACH
Ystyria Salm 119, adnod 165: "Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;
does dim yn gwneud iddyn nhw faglu." Mae Duw'n addo llond trol o heddwch pan wyt ti'n gwneud beth mae ei Air yn ei ddweud. Mae dilyn rheolau Duw'n dy helpu i wneud llaio o gamgymeriadau, a does dim raid i ti boeni mwyach am "faglu?" neu cael dy frifo oherwydd penderfyniadau gwael. Mae byw'n ôl Gair Duw'n caniatáu ei heddwch i reoli dy galon. Waw! I gael dy atgoffa o beth mae Gair Duw'n ei ddwedu cymer olwg ar Salm 18, adnod 30, 19 adnod 8, 33 adnod 4.

SIARAD Â'N GILYDD
- Meddylia am reol rwyt yn ei dilyn, fel croesi'r ffordd ar groesfan sebra neu peidio rhedeg yng nghoridorau'r ysgol. Wyt ti'n fwy tebygol o gael dy frifo wrth ddilyn neu beidio dilyn y rheolau? Esbonia.
- Pryd wyt ti wedi profi heddwch am dy fod wedi ufuddhau i Air Duw?
- Sut mae adennill heddwch Duw ar ôl i ti wneud llanast o bethau?

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

God's Peace

Mae Gair Duw'n dweud ei fod yn cynnig heddwch "y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg" (Philipiaid, pennod 4, adnod 7 beibl.net). Yn y cynllun pedwar diwrnod hwn byddi di a'th blant yn cymryd golwg agos ar y rhannau hynny o'n bywydau ble gallwn brofi'r heddwch hwnnw. Mae pob diwrnod yn cynnwys ysgogiad at weddi, darlleniad byr ac esboniad o'r Ysgrythur, gweithgaredd ymarferol, a chwestiynau trafod.

More

We would like to thank Focus on the Family for providing this plan. For more information, please visit: www.FocusontheFamily.com