Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Heddwch DuwSampl

God's Peace

DYDD 4 O 4

MAE FFYDD GADARN YN ARWAIN AT HEDDWCH

SIARAD I DDUW
Pwyllog, diysgog, diwyro, cadarn, dibynadwy, solet - mae'r geiriau hyn yn disgrifio pwy yw Duw. Dywed wrth Dduw, wrth i ti weddïo sut wyt yn ei werthfawrogi Ef am y nodweddion hyn.

PLYMIO I MEWN
Paratoa ddwy sosban wedi'u llenwi â thywod: un yn damp ac wedi'i bacio'n dynn a'r llall yn sych a rhydd. Gwthia gar tegan ar draws y ddau fath o dywod. Yr amcan i'w gweld pa fath sy'n caniatáu i'r car fynd bellaf.

MYND YN DDYFNACH
Yn union fel mae hi'n haws i wthio car ar dywod cadarn, mae ffydd gadarn yn ei gwneud hi'n hawdd i fynd drwy brofiadau da a drwg mewn bywyd. Mae ffydd yn arwain at lawer o fendithion, gan gynnwys heddwch. Mae Salm 29, adnod 11 yn dweud, "Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl." Ond pan wyt ti ddim yn trystio Duw mae dy ffydd di fel tywod rhydd, ac rwyt ti'n ymgolli ac yn cael trafferth gyda phethau caled bywyd. Dyna pam mae angen i ti weddïo ar i Dduw dy dynnu'n agosach ato ac adeiladu dy ffydd ynddo fe.

SIARAD Â'N GILYDD
- Disgrifia gyfnod pan dyfodd dy ffydd. Beth wnaeth dy helpu i dyfu mewn ffydd?
- Sut wyt ti wedi profi heddwch Duw? Sut deimlad oedd iddo?
- Duw yw awdur heddwch a phopeth da. Wyt ti wedi gofyn iddo am fwy o ffydd|? Wyt ti wedi gofyn iddo am ei heddwch?
Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

God's Peace

Mae Gair Duw'n dweud ei fod yn cynnig heddwch "y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg" (Philipiaid, pennod 4, adnod 7 beibl.net). Yn y cynllun pedwar diwrnod hwn byddi di a'th blant yn cymryd golwg agos ar y rhannau hynny o'n bywydau ble gallwn brofi'r heddwch hwnnw. Mae pob diwrnod yn cynnwys ysgogiad at weddi, darlleniad byr ac esboniad o'r Ysgrythur, gweithgaredd ymarferol, a chwestiynau trafod.

More

We would like to thank Focus on the Family for providing this plan. For more information, please visit: www.FocusontheFamily.com