Poeni am DdimSampl
Dŷn wedi darganfod gyda'n gilydd nad ydy Duw yn dymuno ein bod yn pryderu. Dŷn ni hefyd wedi sefydlu mai'r gwrthwenwyn i bryder yw gweddi, sy'n cynhyrchu heddwch.
Ond sut allwn ni stopio pryder yn ei draciau cyn iddo gydio ynom.
Rwy'n credu mai'r ateb yw meithrin bywyd o heddwch.
Mae'r Beibl yn dweud hyn yn Rhufeiniaid 12:18:
‘Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb..’
Pawb. Mae hyn yn cynnwys gyda ni ein hunain!
Os ydym yn rhyfela yn erbyn eraill neu o fewn ein hunain, bydd gynnon ni ddigon i boeni amdano. Ond os dŷn ni wedi saernïo bywyd o heddwch, mae gennym lawer gwell siawns o fyw yn rhydd o bryder.
Mae doethineb yn rhan fawr o fyw mewn heddwch.
- Yn hytrach na gwario'n ddiddiwedd, arbeda. Yna bydd gen ti heddwch yn arian.
- Yn hytrach na chyrraedd 10 munud yn hwyr bob dydd i'r gwaith, cyrhaedda 10 munud yn gynnar. Yna bydd gen ti heddwch dy fod yn adeiladu enw da yn dy weithle.
- Yn hytrach na llusgo dy hun o'r gwely ar y funud olaf, coda’n gynt a threulia amser gyda Duw ar ddechrau dy ddiwrnod. Yna byddi di'n cael heddwch gan wybod dy fod di wedi gosod dy hun mewn lle i ennill y diwrnod hwnnw.
Gellir cymhwyso gweithredoedd doeth fel yr enghreifftiau hyn i bob rhan o'n bywydau. Nid ‘syniad da’ yn unig yw byw’n gyfiawn, mae’n cael ei annog yn yr ysgrythur oherwydd ei fod yn cynhyrchu heddwch yn ein bywydau.
Y newyddion da am heddwch Duw, gyfeillion, yw na ellir tarfu arno. Mae'n anrheg a roddir gan y Rhodd Roddwr eithaf.
Mae Ioan 14:27 yn dweud hyn:
“Heddwch - dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr.”
Meithrin bywyd o heddwch.
Byw yn gyfiawn.
Byw'n ddoeth.
Dyma gynhwysion byw bywyd dibryder.
Camau Nesaf
Yn olaf, dysgu Ioan 14:27 ar y cof.
Pryd bynnag y daw gofid i guro ar dy ddrws, cofia fod Duw wedi rhoirhoddo heddwch i ti, ac y mae'n rhodd na all cael ei gymryd oddi wrthyt ti.
Am ragor o ddefosiynau gan CBN Ewrop, neu i ddarganfod mwy am y weinidogaeth, clicia
yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae gofid yn lleidr o'n hamser, ein hegni, a'n hedd. Felly pam dŷn ni'n ei wneud? Yn y defosiwn 3 diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar bryder, pam dŷn ni’n ei wneud, a sut y gallwn roi'r gorau iddi.
More