Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Poeni am DdimSampl

Worry for Nothing

DYDD 1 O 3

Pam Poeni?

Dŷn ni i gyd yn profi pryder ar ryw adeg yn ein bywydau, onid ydyn ni? Daw bil annisgwyl drwy’r drws nad ydym wedi cyllido ar ei gyfer, a dŷn ni’n poeni am sut dŷn ni’n mynd i’w dalu.

Mae anwylyd yn cyrraedd adref 30 munud yn hwyrach na ddwedon nhw y bydden nhw, a dŷn ni wedi treulio'r amser cyfan yn poeni y gallai rhywbeth fod wedi digwydd iddyn nhw.

Mae'ch plentyn yn mynd i'r feithrinfa am y tro cyntaf ac rydych chi'n treulio'r diwrnod yn poeni am sut maen nhw'n dod ymlaen ac os ydyn nhw wedi setlo'n iawn.

Mae gan bob un ohonom yr adegau hyn pan fyddwn yn teimlo allan o reolaeth ac yn methu â chydbwyso popeth sy’n mynd blaen yn ein bywydau. Dŷn ni’n troi at bryder, gan geisio darganfod sut y gallwn ni ddatrys mater neu broblem benodol, weithiau heb fynd at y Ffynhonnell yn gyntaf.

Does dim byd o'i le ar ofalu, mae gennym ni i gyd bethau sy'n bwysig i ni ac sy'n dda. Ond pan ddaw gofalu yn destun pryder, mae'n ein dwyn o'n llawenydd ac yn disbyddu'r egni sydd ei angen arnom ar gyfer bywyd.

Oeda i ddarllen adnodau heddiw, a geir yn Mathew 6:25-34.

Mae Matthew yn dechrau drwy gydnabod y pethau sydd eu hangen arnom ni i gyd - bwyd, diod, a dillad.

Dŷn ni’n ei wybod. Mae Matthew yn ei wybod. Mae Duwyn ei nabod!

Gallwn fod yn dawel ein meddwl fod Duw yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen arnom i fyw’n dda a bod ganddo gynlluniau ar ein cyfer.

Aiff Matthew ymlaen i ddangos hyn drwy nodi bod hyd yn oed adar yr awyr yn mynd o ddydd i ddydd, gan ymddiried yn narpariaeth y Tad. Dydyn nhw ddim yn hedfan o gwmpas yn poeni am eu pryd nesaf neu ble y byddan nhw’n adeiladu eu nythod - mae'r cyfan yn cael ei ddarparu'n gyfoethog ar eu cyfer gan Dduw mewn natur.

Allwn ni gyflawni unrhyw beth sy'n peri pryder i ni? Neu a yw'n syml yn draenio'r llawenydd allan o'n bywydau?

Ychwanega Matthew fod y blodau yn y cae wedi eu gwisgo’n well nag y gallem fyth obeithio bod er eu bod yn cael eu taflu ar ôl i’r diwrnod ddod i ben. Mor anhygoel o werthfawr ydym ni i Dduw o'u cymharu â hwy! Cofia hynny pan fyddi di'n poeni. Mae'n dy garu di ac yn gofalu am yr hyn sydd ei angen arnat ti. Mae hyd yn oed yn poeni am yr hyn yr wyt ti eisiau! Mae Duw yn gwybod dymuniadau ein calonnau yn ogystal â'n hanghenion.

Gyfeillion, sut byddwn ni’n sefyll allan i fyd colledig ac yn chwilio os ydyn ni’n byw ein bywydau yn poeni am yr un pethau â’r rhai nad ydyn nhw eto’n adnabod Duw. Rhaid inni wrthsefyll gofid ac ymladd dros heddwch.

Edrycha ar fusnes Duw yn hytrach na dy fusnes dy hun a bydd e’n gofalu am y gweddill. Byw yn unol â'i ffyrdd e a bydd yn rhoi popeth sydd ei angen arnat ti.

Peidiwch â phoeni am y dyfodol, mae Duw yn gwybod y cynlluniau sydd ganddo ar ein cyfer ni (gweler Jeremeia 29:11) ac os ydyn ni'n ymddiried ynddo, gall hynny fod yn ddigon.

Camau Nesaf

Dysga ar y cof adnod Jeremeia 29:11.

Pan gei di dy demtio i boeni, adrodda’r adnod hon i ti dy hun - yn uchel neu yn dy galon.

Atgoffa dy hun fod Duwyn gwybod y cynlluniau sydd ganddo ar gyfer dy fywyd! Gorffwys yn hynny.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Worry for Nothing

Mae gofid yn lleidr o'n hamser, ein hegni, a'n hedd. Felly pam dŷn ni'n ei wneud? Yn y defosiwn 3 diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar bryder, pam dŷn ni’n ei wneud, a sut y gallwn roi'r gorau iddi.

More

Hoffem ddiolch i CBN Europe am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.cbneurope.com/yv