Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Poeni am DdimSampl

Worry for Nothing

DYDD 2 O 3

Curo Pryder/h1>

Ni adawodd Iesu lonydd i ni yn ein pryder. Roedd yn gwybod y byddem yn ei wynebu ac mae wedi rhoi proses i ni ei dilyn pan fydd yn cyrraedd ein bywydau. Dydyn ni ddim yn cael ein gadael yn ddiymadferth. Mae doethineb mawr yn y Beibl ar gyfer adegau o bryder.

Oedwch i ddarllen Philipiaid 4:6-7.

Pa mor wych! Yn llythrennol mae gennym ni fformiwla ar gyfer poeni wedi'i ysgrifennu i'r ysgrythur!

Pryder + Gweddi (Angen + Diolchgarwch) = Heddwch.

Pan ddaw'r bil - gweddïa. Diolcha i Dduw am dy incwm a phopeth y mae eisoes wedi'i wneud yn dy fywyd ariannol.

Pan nad ydyn nhw adref eto - gweddïa. Diolch i Dduw am y berthynas a'r cariad rwyt ti'n ei rannu.

Pan fydd dy blentyn yn cael ei ddiwrnod cyntaf yn y feithrinfa - gweddïa. Diolcha i Dduw am y rhodd o blentyn a'r ddarpariaeth o ofal meithrin.

Ac yna, unwaith y byddi di wedi gweddïo a diolch a chyflwyno dy anghenion, caniatâ i’r heddwch na all dim ond Duw ei ddarparu i olchi drosot ti.

Falle na ddaw ar unwaith, falle y bydd angen i ti bwyso ar Dduw trwy weddi, ond fe ddaw. Mae Duw wedi ei addo.

Gall fod yn demtasiwn pan fyddwn yn poeni i estyn am y ffôn neu rannu ein pryderon â pherson arall. Mae amser a lle i hyn. Ond y ffordd orau i oresgyn pryder yw mynd at Dduw yn gyntaf. Nid yn unig y mae hyn yn ei anrhydeddu a'i fendithio e, ond mae'n ein hatal rhag caniatáu i'r pryder gynyddu.

Mae Duw yn malio, gyfeillion. Mae am i ni ddod ato e yn hytrach nag eistedd yn y gofod di-ben-draw o bryder. (Darllen 1 Pedr 5:7)

Y peth gwych am yr ateb dŷn ni wedi'i ddarganfod yn yr ysgrythur yw y gallwn ei gymhwyso yn unrhyw le, unrhyw bryd. Pan fydd ein ffydd yn seiliedig ar berthynas, nid crefydd, dŷn ni'n gwybod bod gynnon ni fynediad at Dduw trwy weddi, pryd bynnag y bydd pryder yn codi.

Pryder + Gweddi (Angen + Diolchgarwch) = Heddwch.

Paid gadael i'r gelyn ddwyn y llawenydd sydd ar gael heddiw. Cymera'r hyn y mae gen ti ofal amdano at Iesu a gad iddo dy lenwi â heddwch.

Camau Nesaf

Fel gyda diwrnod 1, dŷn ni’n mynd i roi adnod allweddol o’r Beibl i’r cof i’n helpu ni i frwydro yn erbyn pryder.

Darllena Philipiaid 4:6-7. Dalia ati nes iddo ddod yn gyfarwydd.

Nawr, pryd bynnag y byddi di'n poeni, bydd gen ti ddewis o'r ysgrythur i'th helpu di yn y foment.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Worry for Nothing

Mae gofid yn lleidr o'n hamser, ein hegni, a'n hedd. Felly pam dŷn ni'n ei wneud? Yn y defosiwn 3 diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar bryder, pam dŷn ni’n ei wneud, a sut y gallwn roi'r gorau iddi.

More

Hoffem ddiolch i CBN Europe am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.cbneurope.com/yv