Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dw i'n DewisSampl

I Choose

DYDD 12 O 12

Dw i'n Dewis Stori Duw

Dechreuwyd diwrnod un o'r Cynllun Beibl hwn yn siarad am rodd sy'n tebygu i Dduw o ddewis. Dŷn ni wedi darllen storïau personol am bobl sy'n gwneud y gorau o'r rhodd yn eu bywydau. Mae nhw'n dewis pwrpas, gweddi. ildio. pŵer, disgyblaeth, cariad, a'r pwysig yn hytrach na phoblogrwydd, poeni, rheolaeth. perffeithrwydd, difaru. cyfraith, ac ar fyrder. Beth wyt ti'n ei wneud efo penderfyniad mentrus Duw i roi ewyllys rydd i ti?

falle, fel fy ngweinidog campws, Ronnie, rwyt wedi penderfynu rhoi amser i dy blant. Neu, efallai, rwyt wedi uniaethu gyda Michael a Lee, wnaeth oroesi cyfraith a pherffeithrwydd, a nawr rwyt yn barod i gael dy ddeffro gan gariad Duw a grym yr Ysbryd Glân.

Roedd llawer ohonoch yn teimlo dan bwysau ar ôl darllen atgof Audra o Abraham yn ildio Isaac ac wedyn rhyddhad o'r pwysau'n codi pan mae hi'n atgoffa pan fydd Duw'n ymyrryd a'n bendithio pan fyddwn yn ildio iddo. Cymaint o storïau da ynde? Os fyddet ti'n cyflwyno dy stori Dw i'n dewis beth fyddai e?

Gaf i ddweud fy stori i? Dw i'n dewis gweddïo drosot ti. Dw i'n cael sgwennu Cynlluniau Beibl a chynnwys i adeiladu'r ysbryd gan Life.Church. Yn ystod yr amser y byddi'n darllen hwn, fe fydda i'n fy swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener, yn datblygu cynnwys i ddarparu a grymuso pobl fel ti. Ond nid dim ond sgwennu fydda i. Dw i'n dewis rhoi amser o'r neilltu i weddïo drosot ti, wrth i ti ddarllen hwn. Dw i'n gosod atgof ar galendr fy ffôn fel mod i ddim yn anghofio.

Dw i'n gweddïo y byddi di'n clywed gan yr Ysbryd Glân sy'n fyw ac ar gael. Dw i'n gweddïo y byd un diwrnod yn y cynllun hwn yn dy stopio am ennyd a'th symud i gyfeiriad lefel newydd o nerth, rhyddid, a llawenydd, yn dy berthynas â phobl a Christ. Dw i'n gweddïo am dy stori, a dw i ddim yn poeni o gwbl achos Duw sy'n sgwennu'r storïau gorau.

Gweddïa: Dduw, diolch i ti am fy arwain i sylweddoli y dewisiadau sydd raid i mi eu gwneud. Dw i'n gweddïo y byddi'n fy nefnyddio i symud eraill i ddewis bod yn rhan o'th stori di. Amen.

Jason Inman, datblygwr cynnwys yn Life.Church

Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

I Choose

Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Cynlluniau Tebyg