Dw i'n DewisSampl
![I Choose](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F2885%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Dw i'n Dewis Pwysig yn lle Ar Fyrder
Beth yw'r pethau pwysicaf mewn bywyd?
Pan ti'n clywed y cwestiwn yna, dw i'n dychmygu fod rhai pethau'n dod i feddwl yn hawdd iawn: Duw, teulu, gwneud cyfraniad pwysig i'r byd, dim ond i enwi rai pethau. Base pob un ohonon ni'n gallu ffurfio creu rhestr yn eithaf sydyn - ond pa mor aml mae ein rhestrau yn sefyll ochr yn ochr â'r ffordd dŷn ni'n treulio ein hamser?
Dychmyga dy fod mynd ar daith rwyt wedi bod yn breuddwydio amdani ers blynyddoedd. Bydd y daith yn cymryd oddeutu 15 awr, a rwyt yn barod a chynhyrfus. Yn hir na hwyrach ar ôl bod yn gyrru am 15 awr, ti'n sylweddoli dy fod wedi bod yn mynd i'r dwyrain, yn lle'r gorllewin, ac nid yn unig wedi glanio yn y lle anghywir ond yn llawer pellach i ffwrdd o'r lle cywir. Roedd pen y daith yn bwysig i ti, ond tynnwyd dy sylw, a fethaist ti gyfarwyddiadau allweddol.
Mae hwn yn stori am daith anghyffredin, ond mae'n stori gyffredin mewn bywyd. Falle bod hi'n amser torri nôl neu gymryd seibiant oddi wrth y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n amser da, i godi'n y bore a throi at Air Duw. Falle bod angen i ti ddweud wrth dy gydweithwyr fod dy deulu'n dod gyntaf, felly rwyt am wneud ffiniau cliriach rhwng gwaith a bywyd. Falle mai sut rwyt ti'n gwario dy arian sydd angen ei newid neu sut rwyt yn treulio amser mewn perthynas ag eraill. Beth bynnag yw e, newidia'r hyn sydd yn bwysig i fod, yn hytrach, ar fyrder, a gwna rywbeth nawr i wneud gwahaniaeth.
GweithredaPa beth pwysig sydd ddim yn cael digon o'th sylw? Pa beth sydd ar fyrder gennyt ond ddim yn bwysig sy'n cael gormod o'th sylw? Pa gamau sydd raid i ti ei gymryd i newid rhain drosodd?
Jordan Wiseman, marchnata yn YouVersion
Barod i Weithredu? Dechreua'r cynllun Beibl Yr Amser yw Nawr.
Am y Cynllun hwn
![I Choose](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F2885%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.
More