Dw i'n DewisSampl
Dewis Cariad yn lle Cyfraith (Rhan 2)
Roedd fy ffrind i, Lee, yn Gristion cymharol ddiweddar pan ddaeth e i'm gweld, yn teimlo braidd yn ddigalon. "Mae'n rhaid i mi siarad efo ti am rywbeth sydd yn fy siomi i, meddai. Gan edrych at y llawr, heb allu dweud dim am beth amser. "!Dw i'n dal i bechu," gwaeddodd mewn rhwystredigaeth. " Mi ofynnais i Iesu ddod i mewn i'm calon, ac ro'n i o ddifri, ond dw i ddim yn meddwl fod e wedi gweithio oherwydd dw i'n dal i bechu!" Ac i bwysleisio, ychwanegodd, "Bob dydd!"
Roedd Lee yn wirioneddol siomedig. Fel fi rwyt ti, mwy na thebyg, yn meddwl, Ara' deg Lee, dŷn ni i gyd yn methu byw'n iawn drwy'r adeg. Dŷn ni gyd yn gallu uniaethu gyda rhwystredigaeth Lee ac arferion pechadurus. Dw i'n sicr yn gallu. Fe all y pechod fod yn rywbeth hollol amlwg, neu'n rywbeth mwy cyfrwys fel hunanoldeb, balchder, neu ormodedd.
Ond, doedd dim angen dy atgoffa debyg. Mae'r ysgrythur yn galw ein gelyn yn "gyhuddwr". Mae e'n ein hatgoffa'n gyson pa mor ddrwg ac aml dŷn ni'n methu. Diolch byth, mae gynnon ni Air Duw, a'r Ysbryd Glân i daro nôl!
Y diwrnod hwnnw, siaradodd Lee a finnau am amser hir am y gyfraith yn erbyn gras, a cyfreithlondeb yn erbyn cariad. Mae'r gyfraith yn cyhuddo. Mae gras yn maddau. Mae cyfreithlondeb yn beirniadu. Mae cariad yn arbed. Mae Satan yn brifo. Mae'r Ysbryd Glân yn iacháu. Yr allwedd yw aros yn agos at yr hyn mae'r Ysbryd yn ei wneud yn ein hysbryd ni. Nid yw tyfu'n yr Ysbryd yn ddigwyddiad, weithgaredd. neu'n nod
Mae e'n broses gydol bywyd wedi'i fwydo gan gariad Duw a'n hymateb ni. Mae Duw'n gwybod hyn. Fel Lee, dŷn ni'n dal i fethu - bob dydd - ond mae cariad Duw'n rhy fawr, a mae grym yr Ysbryd Glân yn rhy fawr i roi mewn nawr. Paid gadael i'r cyhuddwr daflu'r gyfraith atat ti. Dewisa i adael i Dduw dy adnewyddu'n ddyddiol.
Gweithreda: Rho dro ar y ddau gam yma. 1. Dweda wrth ffrind agos pa gyhuddiad rwyt yn ei wynebu, a gofynna am help. 2. Darllena'r Gair ar gyfer heddiw a gwahodda'r Ysbryd Glân i adnabyddiaeth newydd o gariad iachusol Duw.
Kyle Palmer, fferyllydd ac un o wirfoddolwyr Life.Church
Am y Cynllun hwn
Wyt ti fyth ytn teimlo fel dy fod wedi dy ddal mewn llyfr dewis dy antur dy hun gyda rhywun arall yn dewis? Mae mamau yn iawn. Mae ein dewisiadau'n bwysig - dros ben. Mae'r cynllun Beiblaidd hwn gan Life.Church yn cyd-fynd gyda negeseuon Craig Groeschel i rai o'r dewisiadau mwyaf all unrhyw un ei wneud. Falle nad ydyn ni'n gallu dewis ein hanturiaethau ein hunain bob tro, ond gallwn ddewis pwrpas, gweddi, ildiad, disgyblaeth, cariad, a phwysigrwydd.
More