Grym Anghyffredin Moliant: Defosiwn 5 Diwrnod o'r SalmauSampl
Mae Moli Duw yn rhoi caniatâd iti rannu dy Rwystredigaethau
Bu cyfnod o fy mywyd oedd yn teimlo’n dywyll. Gadawodd cancr fi’n hollol luddedig. Meddyliais yn ystod y cyfnod hwnnw, “Ydy hi’n ddilys imi foli Duw, pan dw i’n teimlo mor ofnadwy â hyn?” Doeddwn i ddim fel neidio i fyny ac i lawr a gweiddi, “Halelwia, mae gen i gancr!” Wrth imi astudio Llyfr y Salmau, wnes i ddarganfod fod llawer o’r Salmau yn ymbilion. Gweddi o ymbil yw un sy’n llawn cwestiynau, rhwystredigaethau, ac amheuon. Wnes i ddarganfod nad oedd y Salmydd yn dal nôl gyda Duw. Pan oedd y Salmydd yn mynegi ei deimladau. Yn aml, eu haddoliad oedd crïo (Salm 42, adnod 3). Adegau eraill, roedden nhw’n dangos eu dicter i’r Arglwydd. Er enghraifft, yn ystod un cyfnod o’i fywyd, roedd Dafydd yn teimlo mor rhwystredig gweddïodd Salm 58 adnod 6, “Torra eu dannedd nhw, O Dduw!” Dw i’n cofio meddwl pan ddarllenais i’r geiriau hynny gyntaf, “Oes gynnon ni hawl gweddïo fel yna?”
Mae Duw eisiau i ti fod yn onest wrth addoli. Hyd yn oed os wyt ti’n rhwystredig, yn flin, neu’n drist, mae’n dy wahodd i ddod â’r teimladau hynny ato e. Crïa’r cyfan o’i flaen. Yna, dilyn esiampl y Salmydd. Tro dy ffocws at foli. Mae Duw’n addo bod yn agos i’r trychlun ac arbed y rheiny sydd wedi anobeithio (Salm 34, adnod 18). Mola ac addola e heddiw, ei fod yn cadw ei addewidion.
Sela - Oeda a Myfyria: Wyt ti’n teimlo, i fod yn “Gristion da” Mae’n rhaid iti fod yn hapus bob amser? Pryd mae Duw wedi bod gyda thi pan oeddet ti’n ynghanol galaru dwfn?
Gweddi o Foliant: Arglwydd Iesu, Dw i’n dy foli am fod yn ddyn gofidus ac yn gyfarwydd â galar pan oeddet yn cerdded y ddaear yma (Eseia, pennod 53, adnod 3). Diolch, dy fod yn gweld bob deigryn dw i’n ei golli ac rwyt yn clywed bob gair blin dw i’n ei ddweud. Dw i’n dy foli dy fod yn fy ngwahodd i fod yn onest hyd at fy mherfeddion gyda’m holl deimladau. Diolch, wrth imi dywallt allan fy ngofid mewn mawl ger dy fron, rwyt yn iachau fy nghalon doredig. Dw i’n dy foli di Arglwydd, dy fod yn fy nghysuro fel Tad cariadus trugarog. Diolch am fod yn agos pan dw i’n crïo. Dw i’n dy foli fel Duw pob trugaredd!Salm 34:18, " Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio."
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pryder, ofn, unigrwydd ac iselder wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd y emosiynau hyn ddim yn ddieithr i'r Salmyddion. Fodd bynnag, dysgon nhw sut i ryddhau pŵer rhyfeddol o ganmoliaeth i oresgyn. Darganfydda'r gyfrinach o dawelwch yn y defosiynau hyn o'r Salmau.
More