Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Grym Anghyffredin Moliant: Defosiwn 5 Diwrnod o'r SalmauSampl

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

DYDD 5 O 5

Mae Moli Duw’n dod â Buddugoliaeth

Mae gynnon ni elyn sydd eisiau lladrata, dwyn, lladd a dinistrio. Mae e’n gweithio goramser i ddwyn ein hyder a’n hangerdd. Mae e’n gelwyddgi ac yn gyhuddwr. Ei enw yw Satan. Fodd bynnag, mae Duw wedi rhoi arfau i ni y gallwn eu defnyddio wrth ryfela pan mae Satan yn ein poenydio. Gallwn daro’r gelyn gyda Gair Duw a Mawl. Bydd y ddau arf hyn yn ei wasgu dan dy draed. Y peth ydy, mae Satan yn ag alergedd tuag at fawl. Pan fyddi’n ei deimlo’n ceisio dwyn dy hyder, dechreua moli enw Iesu Grist. Wrth iti roi gorfoledd i Iesu Grist am bwy yw e, bydd Satan yn dianc fel llwfrgi.

Mae’r egwyddor hon i’w gweld yn hanes Jehosaffat, wrth iddo arwain milwyr Jwda i ymladd y gelynion oedd yn eu hamgylchynu. Yn lle anfon y milwyr allan gyntaf, anfonodd y Brenin Jehosoffat gorau allan i ganu, “Diolchwch i'r ARGLWYDD; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” (2 Cronicl, pennod 20, adnod 21). Wrth i’r corau ganu, anfonodd yr Arglwydd ymosodiadau cudd yn erbyn y gelynion a chafodd y cwbl eu trechu. Mae’n stori bwerus sy’n darlunio sut mae addoli Duw’n trechu’r gelyn yn ein bywydau.

Sela - Oedfa a Myfyria:Ym mha ran o dy fywyd wyt ti’n hiraethu am gael gweld buddugoliaeth? (buddugoliaeth dros bryder, ofn, caethiwed, problemau gyda bwyd...). Sut beth yw hi iti foli Duw fod y fuddugoliaeth eisoes wedi ei hennill trwy Iesu Grist?

Gweddi o Foliant: Arglwydd Iesu, dw i’n dy ogoneddu oherwydd gyda’th help dw i’n goroesi pob sefyllfa sy’n teimlo’n anorchfygol. Drwy dy nerth mae tywyllwch yn troi’n oleuni. Diolch. Pan fydda i’n teimlo ofn, mae dy bresenoldeb gyda fi. Dw i’n dy foli dy fod yn addo i’m harwain i mewn buddugoliaeth wrth imi dy drystio di. Dduw Dad, dw i’n diolch iti drwy Grist fod gen i fuddugoliaeth ym mhob sefyllfa. Ni fydd unrhyw arf yn fy erbyn yn llwyddo. Dw i’n dy foli di arglwydd Iesu, y gallaf heddiw sefyll mewn buddugoliaeth ynot ti.

Salm 18, adnodau 46 i 49,” Ydy, mae'r ARGLWYDD yn fyw! Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i! Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu! Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen. Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion, a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu. Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar. Felly, O ARGLWYDD bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd ac yn canu mawl i dy enw”

Am hyd yn oed fwy o help i orchfygu pryder, ymuna â Becky Harling am astudiaeth 6 wythnos o’r Salmau yn The Extraordinary Power of Praise.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

Mae pryder, ofn, unigrwydd ac iselder wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd y emosiynau hyn ddim yn ddieithr i'r Salmyddion. Fodd bynnag, dysgon nhw sut i ryddhau pŵer rhyfeddol o ganmoliaeth i oresgyn. Darganfydda'r gyfrinach o dawelwch yn y defosiynau hyn o'r Salmau.

More

Hoffem ddiolch i Moody Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.moodypublishers.com/the-extraordinary-power-of-praise/