Grym Anghyffredin Moliant: Defosiwn 5 Diwrnod o'r SalmauSampl
Mae moli Duw tra dŷn ni’n disgwyl yn ein Cryfhau
Roedd rhaid i’r Salmydd, Dafydd, ddisgwyl amser hir i Dduw gyflawni ei addewid iddo ddod yn frenin. Yn aml, yn ystod ei flynyddoedd o ddisgwyl, roedd Dafydd hefyd yn cuddio rhag y brenin Saul, oedd eisiau ei ladd. Yn lle, cerdded i ffwrdd oddi wrth ei ffydd yn Nuw, dyfnhaodd ei ffydd wrth iddo ddisgwyl. Ar un adeg, tra bu’n disgwyl, dangosodd Dafydd ei foliant drwy ddweud, “Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb.” (salm 5, adnod). Mae’r cymal yna, “yn disgwyl am ateb” yn dangos ei obaith hyderus. Doedd e ddim yn dweud anwiredd. Yn gynharach, yn Salm 5, mae e’n gofyn i’r Arglwydd ystyried yn ofalus beth oedd yn ei boeni (Salm 5, adnod 1). Fodd bynnag, ar ôl iddo dywallt ei galon mae e’n symud ei ffocws at foli Duw y bydd yn ateb. Wrth iddo foli, mae’r Ysbryd Glân yn nerthu ei galon gyda gobaith hyderus. Dyna beth yw Grym Moliant Anghyffredin.
Wrth iti ddisgwyl am Dduw i ateb dy weddïau, dilyna’r patrwm. Tywallta dy galon allan mewn gonestrwydd plaen, ond yna tro dy ffocws at foli Duw. Bydd yn ateb am ei fod wedi addo ateb. Fel y Duw Sanctaidd mae e’n cadw ei addewidion bob tro. Wrth i ti barhau i foli Duw, hyd yn oed pan mae’n ymddangos yn dawel, bydd yr Ysbryd Glân yn cryfhau dy galon gyda gobaith hyderus.
Sela – Oeda a Myfyria: Ble yn dy fywyd wyt ti’n disgwyl am dorri trwodd i dir newydd? Sut bydd moli Duw am ei gymeriad, o bosib, yn cryfhau dy obaith wrth iti ddisgwyl?
Gweddi o Fawl:Arglwydd Dduw, dw i’n dy folid dy fod yn dda a sanctaidd. Rwyt yn Dduw sy’n cadw dy air bob tro. Diolch iti am addo y byddi’n ateb os bydda i’n gofyn (Matthew 7:7). Dw i’n dy foli am dy fod wastad yn clywed fy llais, ac y galla i dy drystio i gadw dy holl addewidion (Salm 5, adnod 3, 2 Corinthiaid, pennod 1, adnod 20). Diolch, y byddi’n fy llenwi â hyder a gobaith, wrth imi dy foli heddiw.
Salm 5, adnod3, “ Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; Dw i'n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb.”
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pryder, ofn, unigrwydd ac iselder wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd y emosiynau hyn ddim yn ddieithr i'r Salmyddion. Fodd bynnag, dysgon nhw sut i ryddhau pŵer rhyfeddol o ganmoliaeth i oresgyn. Darganfydda'r gyfrinach o dawelwch yn y defosiynau hyn o'r Salmau.
More