Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 3 O 15

GWEDDI:

Dduw, rwyt ti’n dad cariadus. Diolch i ti am fod yn amyneddgar gyda mi wrth i mi ddysgu trystio ynot ti.


DARLLENIAD

Wyddet ti fod yna gost i dwf? Cyn i ni allu symud ymlaen yn ein taith twf, yn aml mae’n angenrheidiol i ni gydnabod yr hyn y byddwn yn ei golli. Creda neu beidio, rhan o'r rheswm nad ydyn ni’n symud ymlaen mewn twf yw oherwydd ein bod yn elwa o aros lle'r ydyn ni - yn mwynhau cysur, diogelwch, y rhith o reolaeth, neu unrhyw nifer o wahanol bethau.


Yn Galatiaid 4:6-8, mae Paul yn dweud wrthon ni fod adeiladu ein bywydau o amgylch y pethau anghywir yn ein gwneud ni’n gaethweision. Mae hynny’n iaith gref, ond mae Paul yn gwneud rhywbeth strategol iawn yma. Mae Paul yn cyfeirio at ran o stori Israel yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o gaethwasiaeth yn yr Aifft. Cododd Duw Moses a gwneud gwyrthiau mawr i'w harwain allan o'r cadwyni hynny, a chanmolodd yr Israeliaid Dduw am eu rhyddid. Ond doedd hi ddim yn hir cyn iddyn nhw ddechrau cwyno am sut roedden nhw’n methu holl fanteision a chysuron eu bywydau yn yr Aifft. Fe ddechreuon nhw hyd yn oed siarad am fynd yn ôl! Fedri di ddychmygu bod â hiraeth am wlad lle bues ti’n gaethwas?


Falle bod hynny'n swnio'n wallgof, ond, yn ôl Paul, fe all y dymuniad hwnnw fod yn fwy cyfarwydd i ti nag wyt ti'n meddwl. Os oes rhywbeth sydd ei angen arnat ti gymaint fel nad wyt ti’n gallu dychmygu dy fywyd hebddo, yna rwyt ti'n gaethwas i'r peth hwnnw. Rwyt ti wedi rhoi'r gorau i dy ryddid. Rwyt ti'n rhwym iddo. Gall fod yn rhywbeth sydd biau ti, yn berthynas, yn deitl, neu'n enw da.


Am ein bod ni wedi cael hunaniaeth newydd yn Iesu, mae’r cadwyni hynny wedi’u torri ac mae llwybr newydd yn paratoi’r ffordd i’n rhyddid. Ac er ei fod yn syniad clir a syml yr olwg, dydy e ddim bob amser yn hawdd yn ymarferol. Mae'n un peth i dy ryddhau o gaethwasiaeth, ond peth arall yw cael y caethwasiaeth allan ohonot ti.


Ein tueddiad yw dychwelyd dro ar ôl tro at yr hyn sydd i bob golwg wedi darparu cysur, sicrwydd, a diogelwch, ac eto bob amser yn troi ein cefnau ar y daith i gyflawnder a rhyddid y mae Duw yn ei ddymuno ar ein cyfer ni.


Ond mae yna newyddion da i ti heddiw. Mae Duw yn dad cariadus!


Dychmyga fod tad yn gwylio ei blentyn bach yn cymryd ei gamau simsan cyntaf. Beth mae e'n ei deimlo? Sut mae e'n ymateb? A yw'n ddiamynedd ac yn rhwystredig nad yw ei blentyn yn mynd ymhellach? Ydy e’n ffrwydro mewn dicter pan fydd pengliniau ei blentyn yn mynd yn simsan ac yn syrthio i’r llawr? Wyt ti'n meddwl y byddet ti’n gweld siom anhygoel yn ei lygaid wrth i ti ei glywed yn gweiddi, “Pam ti ddim yn cerdded yn barod? Edrycha ar dy frawd hŷn! Mae’n gallu rhedeg sawl gwaith o gwmpas y tŷ hwn! Tyrd yn dy flaen”


Na, byth! Fyddet ti ddim ar unrhyw gyfrif yn disgwyl ymateb fel yna. Pam ddim? Achos mae tad cariadus yn dathlu camau'r babi, waeth pa mor fach ydyn nhw. Mae'n gwybod bod y camau hynny yn ddechrau taith hir i ddod yn oedolyn aeddfed. Mae'n amyneddgar gyda'r cynnydd ac yn dathlu pob buddugoliaeth, waeth pa mor fyrhoedlog.


Yn yr un modd, mae dy Dad nefol yn dyheu am dy weld yn symud ymlaen yn dy fywyd ysbrydol. Mae'n caru ac yn dathlu camau babi bach.


MYFYRDOD

Dyma ddau gwestiwn i ti fyfyrio arnyn nhw heddiw. Beth ydw i'n ei gael o aros lle ydw i? Ac, oes rhywbeth dw i ormod o ofn i’w golli?


Wrth iti ddechrau ateb y cwestiynau hyn, gofynna i Dduw am y gras a’r cryfder sydd ei angen arnat ti i gymryd cam bach heddiw tuag at drystio. Yna cymra amser i ddiolch i Dduw am ei amynedd a'i faddeuant sy'n dy gwrdd bob tro y byddi di'n baglu'n ôl i'r hen fywyd a'r ffordd honno o feddwl.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org