Rwyt ti yn cael dy GaruSampl
Wedi dy alw i Garu Duw a Charu Eraill
Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn - dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu'r drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda.. (Rhufeiniaid 12:9)
Wnaeth Iesu grynhoi llawer o gyfreithiau’r Hen Destament gyda’r gorchymyn mawr i garu Duw â’n holl galon ac felly hefyd i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun (Matthew 22:37-40). Mae ‘cymydog’ yn golygu mwy na’r bobl yn dy stryd. Dy gymydog yw unrhyw un rwyt yn ei gyfarfod neu adael argraff arnyn nhw. Mae’n hawdd iawn i garu ein hunain. Dŷn ni’n anghofio ein beiau yn rhwydd ac yn canolbwyntio ar y daioni dŷn ni’n ei wneud. Mae'n llawer anoddach caru eraill.
Os dŷn ni’n gafael yng nghariad Duw a Newyddion Da’r Efengyl, byddwn yn rhannu’r cariad hwnnw gyda phwy bynnag allwn ni. Mae darn heddiw’n llawn gorchmynion sy’n darparu digon o esiamplau o ddangos cariad, maddeuant a gras i eraill. Tybed pa un o’r gorchmynion hyn mae Duw’n dy herio i’w weithredu yn dy gyfarfyddiad ag eraill heddiw?
Cyn i ni ddechrau gwneud esgusion, gad i ni beidio anghofio bod Iesu wedi mynd yr holl ffordd, at farwolaeth, hyd yn oed marwolaeth ar groes i’n caru ni. Paid anghofio fod Duw’n galw ar bob un ohonom i fod yn ebyrth byw (Rhufeiniaid 12: 1)! Falle nad yw’n hawdd i garu eraill, ond dyna’n union mae Duw ei eisiau gen ni. Dechreua drwy weddïo dros eraill, a bydd Duw’n lleddfu dy ddicter, dy helpu i oroesi esgusion, a darparu drysau agored i ddangos a rhannu cariad Crist.
Wrth iti weddïo, gofynna i Dduw Cariad dy helpu i garu eraill.
Dŷn ni’n gobeithio fod y cynllun hwn wedi dy annog. Am fwy o gynlluniau tebyg i rai Duane Loynes, dos i chwilio mwy o’n hadnoddau yn Geiriau o Obaith. .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Duw’n dy garu. Pwy bynnag wyt ti, ble bynnag wyt ti yn dy fywyd, mae Duw’n dy garu! Yn y mis hwn pan dŷn ni’n dathlu cariad, paid anghofio fod cariad Duw tuag atat yn fwy nag unrhyw gariad arall. Yn y gyfres pedwar diwrnod hwn, ymgolla dy hun yng nghariad Duw.
More