Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rwyt ti yn cael dy GaruSampl

You Are Loved

DYDD 3 O 4

Cariad Syml

Daliwch ati i garu'ch gilydd fel credinwyr. (Hebreaid 13:1)

Gyda dau o blant yn ysgol gynradd, dw i byth â hefyd yn llofnodi cynlluniau gwaith cartref er mwyn cadw llygad ar beth sy’n digwydd a derbyn adroddiadau chwarterol o’r holl aseiniadau mae fy mhlant wedi neu heb eu gwneud. Dw i’n cael adroddiadau cyson i ddangos graddau’r plant. A hefyd mae yna gredydau ychwanegol i chwyddo eu graddau os nad ydyn ni’n fodlon.

Weithiau dŷn ni’n trin dilyn Iesu fel ennill gradd. Dŷn ni byth a hefyd yn meddwl os ydyn ni wedi gwneud yn ddigon da i gael gradd A. Os dw i wedi cyfrannu bwydydd i fanc bwyd y mis hwn, oes raid imi fwydo’r digartref hefyd? Dw i’n gwybod mod i fod i garu fy ngelynion, ond beth am y person hwnnw ddwedodd gelwyddau amdana i? Dŷn ni fel Pedr yn gofyn i Iesu, ““Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal ati i bechu yn fy erbyn?” (Mathew 18:21 ).

Mae awdur yr Hebreaid yn ein hatgoffa ni i beidio cymhlethu pethau. Paid poeni am gadw cyfrif - jyst dalai ati i garu! Ond i Dduw dydy’r raddfa ddim yn bwysig; y galon sy’n bwysig. Mae Duw eisiau i’n cariad fod ar gael i bawb, am ein bod wedi ein caru gyntaf (1 John 4:19). Yn lle gofyn a wyt ti wedi gwneud digon, gofynna i ti dy hun ble arall mae Duw’n rhoi cyfle iti ddangos cariad at eraill. Cofia'r rhai sydd yn y carchar, dangosa letygarwch, bydd yn fodlon ar yr hyn sydd gen ti, ond y mae'r pethau hynny i gyd yn tarddu o un gorchymyn syml: cariad.

Wrth iti weddïo, diolcha i Dduw am ei gariad syml drosot ti.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

You Are Loved

Mae Duw’n dy garu. Pwy bynnag wyt ti, ble bynnag wyt ti yn dy fywyd, mae Duw’n dy garu! Yn y mis hwn pan dŷn ni’n dathlu cariad, paid anghofio fod cariad Duw tuag atat yn fwy nag unrhyw gariad arall. Yn y gyfres pedwar diwrnod hwn, ymgolla dy hun yng nghariad Duw.

More

Hoffem ddiolch i Words of Hope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.woh.org/youversion