Rwyt ti yn cael dy GaruSampl
Cariad Amyneddgar Duw
“Felly, dw i'n mynd i'w denu hi yn ôl ata i. Dw i'n mynd i'w harwain hi yn ôl i'r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto. (Hosea 2:14)
pan o’n i yn y drydedd flwyddyn fe wnaeth bachgen honni y gallai ddal ei wynt nes byddai merch roedd yn ei hoffi yn dweud ei bod hithau’n hoffi e. Mewn cyfyng gyngor o weld ei wyneb yn troi’n goch, sgrechiodd allan, “IAWN, dw i’n hoffi ti.” Prin fod rhaid dweud, wnaeth y “berthynas” yna ddim para’n hir.
.Yn y darn hwn yn Hosea, dŷn ni’n darllen, tra bod pobl Dduw wedi dewis dilyn duwiau eraill, wnaeth Duw ddim troi cefn arnyn nhw. Ond, yn hytrach na rhoi pwysau arnyn nhw i’ w garu, mae Duw’n dweud y gwnaiff e eu denu a siarad yn dyner â nhw, gan roi hyder iddyn nhw, gan roi hyder iddyn nhw lle bu dim. Drwy hyn, mae Duw’n datgan y bydan nhw un diwrnod yn ei alw’n “fy nghwr” (adn.16). Dyma addewid Crist. Drwy farwolaeth ac atgyfodiad Crist, cafodd y llen rhyngom ni a Duw ei rwygo. Rŷn ni wedi cael maddeuant llwyr, ein camweddau blaenorol wedi’u hanghofio. Mae Duw wedi agor drysau gobaith yn llydan agored, a dŷn ni’n gweld nad yw e’n feistr sy’n mynnu ein cariad, ond Duw amyneddgar sy’n chwilio am berthynas gyda ni. Perthynas sydd heb ei gorfodi arnom ni, ond un dŷn ni’n ei ddymuno oherwydd ei fod wedi dangos dyfnder ei gariad drwy waed Iesu Grist.
Heddiw, ystyria cariad amyneddgar Duw. Bydd e ddim yn dy orfodi i’w garu, ond bydd yn dal ati i’th alw, wastad yn barod i’th groesawu i’w freichiau agored.Wrth iti weddïo, diolcha i’n Duw ffyddlon am ei gariad. Gofynna iddo i'th helpu i garu eraill fel mae e’n dy garu di.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Duw’n dy garu. Pwy bynnag wyt ti, ble bynnag wyt ti yn dy fywyd, mae Duw’n dy garu! Yn y mis hwn pan dŷn ni’n dathlu cariad, paid anghofio fod cariad Duw tuag atat yn fwy nag unrhyw gariad arall. Yn y gyfres pedwar diwrnod hwn, ymgolla dy hun yng nghariad Duw.
More