Tro pedol oddi wrth Materion EmosiynolSampl
Mae un o'r prif gadarnleoedd emosiynol mae pobl yn ddelio gyda heddiw yn cael eiu adnabod fel cyd-ddibyniaeth. Mae yna dermau eraill sy'n ymestyn y cadarnle hwn tu hwnt i un berthynas - y termau hynny fyddai pobl yn plesio a dibyniaethau ar gyfryngau cymdeithasol. Ond i ddechrau gad i ni edrych ar gyd-ddibyniaeth.
Mecanwaith i ddygymod yw cyd-ddibyniaeth (un ffurf ar gadarnle emosiynol) sy'n galluogi person i ddelio - er hynny - yn anghywir gyda diffyg y mae hi neu e'n ei deimlo. Efallai bod yna ddiffyg p hunan-werth a hunan-barch neu deimlad cryf o gael eu gwrthod. Waeth beth am hynny mae cyd-ddibyniaeth fel arfer yn golygu defnyddio person neu pobl i drwsio beth sydd wedi torri. Dw i'n galw hyn yn bod â cadarnle pobl.
Duw yw'r unig un sydd efo'r pŵer a gallu i gwrdd â'n hanghenion. Mae'r broblem yn codi pan dŷn ni'n mynnu troi at eraill, cyn troi ato e. Yn gyfan gwbl drwy ei Air dŷn ni'n darllen am sut mae Duw'n defnyddio pobl ym mywyd pobl eraill. Fodd bynnag, dŷn ni fyth yn darllen am ble mae Duw'n falch i adael i bobl a phethau gymryd ei le. I ddweud y gwir, mae'r gwrthwyneb yn wir, dŷn ni wedi creu eilunaddoliaeth emosiynol.Llinell denau iawn sy'n bodoli rheng mwynhau perthynas neu elwa o gysylltiadau cyfryngau cymdeithasol a datganoli perthnasoedd neu gymariaethau emosiynol. Mae pobl a pherthnasoedd yn rodd y dylem ei fwynhau. Ond dŷn ni hefyd eisiau bod yn ofalus nad ydym yn caniatáu i'n hemosiynau droi yn gadarnle iselder, unigrwydd, cenfigen, amheuaeth neu ofn.
Rwyt angen atgoffa dy hun, yng Nghrist, fod gen ti bopeth rwyt ei angen. Does gen ti ddim angen dal allan am rywbeth gan ryw berson arall i'th wneud yn gyflawn.
Beth neu pwy wyt ti'n ddibynnu arno ar gyfer dy synnwyr o hunan-barch?
Dŷn ni'n gobeithio fod y cynllun hwn wedi dy annog. Am fwy o wybodaeth am y genhadaeth hwn clicia yma ar .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pan mae dy fywyd allan o drefn gyda Gair Duw, yn sicr byddi di'n debygol o brofi canlyniadau poenus. Pan mae dy emosiynau allan o drefn ac yn dechrau effeithio ar dy les, falle y byddi di'n ffeindio dy fod wedi'th gloi tu mewn i garchardai greaist dy hun, o ble mae'n anodd dianc. Mae angen i ti ffeindio cydbwysedd go iawn a dysgu i drystio Duw. Gad i Tony Evans ddangos y ffordd i ti tuag at rhyddid emosiynol.
More