Tro pedol oddi wrth Materion EmosiynolSampl
Gad imi dy atgoffa di o wirionedd am emosiynau: does ganddyn nhw ddim deallusrwydd.
Dydyn nhw ddim yn meddwl. Dim ond ymateb maen nhw. Mae'n rhaid i emosiynau fenthyg meddyliau er mwyn ysgogi teimladau. Felly, mae pwy bynnag neu beth bynnag sy'n rheoli dy feddyliau, yn rheoli sut wyt ti'n teimlo. Mae dy emosiynau yn cael ei sefydlu a'u rheoli gan sut wyt ti'n meddwl am y sefyllfaoedd yn dy fywyd. Er mwyn meistroli dy emosiynau rhaid i ti oroesi cadarnleoedd emosiynol ar dy fywyd, rwyt angen meistroli dy ffordd o feddwl.
Pan wyt ti'n uniaethu dy feddyliau gyda Duw, byddi'n cael dy ollwng yn ehydd.
Cymer olwg yn y drych. Cafodd y person yna ei gyd-groeshoelio, ei gyd-gladdu, ei gyd-atgyfodi gyda Christ. Yng ngolwg Duw, pan fu farw Iesu dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, cefaist tithau hefyd. Pan gafodd ei gladdu, gorweddaist tithau yn y bedd gydag e. Pan wnaeth e atgyfodi, fe wnest tithau hefyd. Er dy fod, efallai, dim ond wedi derbyn Crist yn ddiweddar, cymerodd Duw beth ddigwyddodd i Iesu flynyddoedd yn ôl a'i wneud yn rhan o'th wirionedd ysbrydol.
Mae Satan yn feistr ar blannu meddyliau yn dy ben a gwneud i ti feddwl mai rhai ti ydyn nhw. Falle dy fod yn ei glywed yn dweud rywbeth fel, "Dw i ddim yn gallu goroesi diffyg hunan-barch a'r magl o gymhariaeth. Fedra i ddim bod yn rhydd o'r caethiwed emosiynol hwn. Fedra i ddim gwrthsefyll yr hen arferion hyn o syrthio i mewn i iselder." Falle ei fod yn dweud y pethau hynny wrthot ti, neu falle dy fod y neu dweud i ti dy hun, ond i'w goroesi rhaid i ti stopio credu'r celwyddau. Falle bod y datganiadau hynny'n wir pan oedd yr hen ti yn fys, ond bu farw'r person hwnnw ar y groes gyda Christ. "Edrychwch, mae bywyd newydd wedi cymryd ei le!" (2 Corinthiaid, pennod 5, adnod 17).
Pa gelwyddau wyt ti'n goelio amdanat dy hun?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pan mae dy fywyd allan o drefn gyda Gair Duw, yn sicr byddi di'n debygol o brofi canlyniadau poenus. Pan mae dy emosiynau allan o drefn ac yn dechrau effeithio ar dy les, falle y byddi di'n ffeindio dy fod wedi'th gloi tu mewn i garchardai greaist dy hun, o ble mae'n anodd dianc. Mae angen i ti ffeindio cydbwysedd go iawn a dysgu i drystio Duw. Gad i Tony Evans ddangos y ffordd i ti tuag at rhyddid emosiynol.
More