Tro pedol oddi wrth Materion EmosiynolSampl
Dydy cadarnle emosiynol ddim yn cyfeirio at gael diwrnod gwael nawr neu yn y man. Mae'n cyfeirio at pan wyt yn methu ysgwyd i ffwrdd y magl negyddol sydd wedi gafael yn dy fywyd. gan arwain at ddigalondid afreolus, iselder ysbryd a thristwch.
Yn lle gwneud beth mae cymaint o bobl yn ei wneud (sef trio gwadu neu atal cadarnleoedd emosiynol, drwy dabledi, adloniant, rhyw neu gwario), dw i eisiau i ti ddarganfod y gwraidd tu ôl i'r hyn ti'n brofi fel dy fod yn gallu ei oroesi. Y gwir amdani yw, wnaeth Duw mo'th greu i gario cadarnleoedd emosiynol am bum, ugain, neu ddeugain mlynedd, neu unrhyw amser o gwbl.
Yn hytrach, mae Duw edi addo i ti, yng Nghrist, fywyd llawn. Dwedodd Iesu, "Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw'n fywyd ar ei orau (Ioan, pennod 10, adnod 10b). Dydy e ddim wedi dy alw i fyw bob dydd wedi'th drechu. Mae e eisiau i ti wybod a thrystio mai e yw'r un sydd mewn rheolaeth o bopeth, a'i fod yn gofalu'n llwyr am dy fywyd. Os nad wyt yn profi digonedd bywyd mae e'n ei roi'n rhad ac am ddim, mae'n bryd i ti gymryd tro pedol. Tro at Dduw a gofyn iddo ddatgelu'r lleoedd hynny rwyt ti'n brin o'r tryst a gall fod cadarnle emosiynol wedi dal gafael. Mae e eisiau dysgu i ti weld tu hwnt i dy dristwch - i edrych ar dy fywyd o'i safbwynt e. Gall greu gwyrth allan o beth sy'n edrych fel llanast.
A oes yn emosiynau sy'n ymddangos fel bod ganddynt afael fel gelain ar dy fywyd? A wyt ti'n barod i'w rhoi nhw i Dduw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Pan mae dy fywyd allan o drefn gyda Gair Duw, yn sicr byddi di'n debygol o brofi canlyniadau poenus. Pan mae dy emosiynau allan o drefn ac yn dechrau effeithio ar dy les, falle y byddi di'n ffeindio dy fod wedi'th gloi tu mewn i garchardai greaist dy hun, o ble mae'n anodd dianc. Mae angen i ti ffeindio cydbwysedd go iawn a dysgu i drystio Duw. Gad i Tony Evans ddangos y ffordd i ti tuag at rhyddid emosiynol.
More