Blwyddyn Newydd, yr Un DuwSampl


Creodd Duw bob un ohonom â thalentau a galluoedd gwahanol, a'n gwnaeth yn ei ddelwedd ac yn debyg iddo, ac yn meddwl yn uchel ohonom. Mae'n gweld yr holl botensial sydd gennyt ti, ac yn ei air mae wedi gadael cymaint o atgofion o ba mor bwysig a gwerthfawr wyt ti, oherwydd roedd yn gwybod y gallet ti ar unrhyw bryd ei anghofio.
Mae credu ynot ti dy hun a gwerthfawrogi sut y gwnaeth e ti yn hollbwysig. Faint o bethau wyt ti heb roi tro ar eu gwneud gan feddwl nad oes gen ti’r hyn sydd ei angen i’w gwneud? Weithiau rydyn ni'n colli cyfleoedd gwych trwy beidio ag ymddiried ein bod ni'n alluog. Rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom ddechrau blwyddyn o fendithion, nid amheuon. Blwyddyn o ymddiriedaeth yw hon, nid ofn. Dyma'r flwyddyn i dderbyn heriau oherwydd "mae popeth rwyt ti ei eisiau ar yr ochr arall i ofn." (Jack Canfield).
Dyma bedwar awgrym byr a allai dy helpu i gynyddu dy hunanhyder:
1. Meddylia y gelli d. Mae'r cyfan yn dechrau yn dy ben, felly mae'n bwysig cael meddwl positif. Y cam cyntaf i gyflawni rhywbeth yw credu y gelli di ei wneud.
2. Siarada â phobl sy'n dy garu di. Mae pobl sy'n dy werthfawrogi fel arfer yn gweld pethau ynot ti nad wyt ti'n eu gweld dy hun ac yn dy atgoffa pa mor werthfawr wyt ti. Treulia amser yng nghwmni pobl sy'n gwneud i ti deimlo bod dy angen ac yn dy garu (Duw, er enghraifft).
3. Tyrd o hyd i rywbeth o ddiddordeb neu rywbeth rwyt ti'n ei wneud yn dda. Mae'n llawer haws, a byddwn i'n meiddio dweud ei fod hyd yn oed yn bleserus, ymladd am rywbeth dŷn ni'n ei hoffi'n fawr. Gwna’n siŵr dy fod di'n chwilio am bethau rwyt ti'n wirioneddol angerddol amdanyn nhw, felly bydd dy ewyllys a'th ymdrech yn fwy.
4. Creda beth mae Duw yn ei ddweud amdanat ti. Rwyt ti mor bwysig, pe bai Iesu'n gorfod rhoi ei fywyd eto drosot ti eto, fe fyddai. Yn y Beibl mae yna lawer o adnodau hardd wedi'u cysegru'n arbennig i ti. Mae Duw yn dweud dy fod wedi dy garu, dy fod yn gryf, dy fod yn werthfawr ac yn gallu gwneud. Os yw Brenin y bydysawd yn credu ynot ti, pam nad wyt ti?
Heddiw rwyt yn gallu dewis peidio ag amau dy hun. Gall hon fod yn flwyddyn lle bob tro rwyt ti'n edrych yn y drych, rwyt ti'n gweld rhywun hardd a chyflawn yng Nghrist. Paid gadael i ansicrwydd ac ofn reoli dy fywyd, mae Duw eisoes yn ei reoli.
Gweithgaredd: Noda dri pheth sy'n anodd i ti eu gwerthfawrogi amdanat ti dy hun. Beth bynnag rwyt yn gallu ei newid, gwna hynny; Yr hyn nad wyt ti’n gallu ei newid, dylet ei garu.
Leslie Ramírez
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae blwyddyn newydd wedi cyrraedd a chyda hynny, nodau a phenderfyniadau newydd dŷn ni am eu cyflawni. Mae popeth wedi newid yn y byd; er hynny, mae gennym yr un Duw hollalluog all roi blwyddyn fendithiol i ni. Ymunwch â mi yn y 4 diwrnod hyn a fydd yn ein helpu i ddechrau blwyddyn gyda phwrpas.
More
Cynlluniau Tebyg

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Coda a Dos Ati

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Rhoi iddo e dy Bryder

Hadau: Beth a Pham

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Ymarfer y Ffordd
