Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blwyddyn Newydd, yr Un DuwSampl

New Year, Same God

DYDD 1 O 4

Gwagia dy siwtces.

Mae mamau o America Ladin fel arfer yn prynu rhoddion i'w hanfon fel anrhegion i'w holl berthnasau pryd bynnag y byddan nhw’n mynd ar daith. Y peth mwyaf doniol oll yw eu bod yn defnyddio eu bagiau i gludo hynny i gyd hefyd, waeth faint o le sydd ar gael!

Wyt ti wedi bod fel y teithiwr hwnnw?

Er y gallai fod yn ddoniol meddwl amdano, y gwir amdani yw y gall fod ychydig yn anghyfforddus ar adegau. Mae cymaint o bethau ar gyfer eraill i’w ffitio i mewn i'r siwtces fel nad oes gen ti lawer o le ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnat mewn gwirionedd.

Mae'r un peth yn digwydd gyda siwtces ein bywyd. Dŷn ni’n llusgo bagiau wedi'u llenwi â phethau o brofiadau blaenorol. Dŷn ni'n cario llawer o wrthrychau sy'n gwneud y siwtces yn drwm, ac yn waeth byth, sy'n cymryd lle i ffwrdd ar gyfer yr hyn dŷn ni wir angen ei gario.

Beth ddylem ni ei dynnu allan i wneud lle? Falle bod yna sefyllfa yn y gorffennol sydd wedi ein rhwystro rhag trio eto. Falle mai amheuaeth yw sy’n ein rhwystro rhag symud ymlaen, neu eiriau cas tuag atom dŷn ni wedi'u cadw yn ein calonnau.

Mae'n bwysig gwybod nad oes rheidrwydd arnom ni i gario'r pethau hyn, gan nad ydyn nhw'n perthyn i ni. Maen nhw’n perthyn i'r gorffennol. Beth am i ni eu gadael yno?

Mae angen i ni wneud lle i'r holl ddaioni mae Duw eisiau ei roi i ni eleni! Y profiadau a'r gwersi newydd hynny, y bobl newydd hynny, y cyflawniadau newydd hynny ...

I gael blwyddyn fendithiol, mae angen gwneud lle i fendithion. Dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd gobeithio am y gorau wrth edrych yn ôl a chofio’r holl bethau drwg a ddigwyddodd, ond cofiwch y gall Duw wneud i bopeth weithio er gwell. Mae heddiw yn gyfle newydd i fyw yn wahanol, i fyw trwy ffydd ac nid ofn, i dderbyn, gollwng gafael a symud ymlaen.

Gad i ni gario siwtces yn llawn gobaith, cariad, llawenydd, heddwch, amynedd a breuddwydion. Gad i ni adael o’n hôl yr hyn sydd wedi bod yn faich, a sylwi sut mae Duw yn ein helpu i lenwi'r hyn sy'n wirioneddol werth chweil. Dw i eisoes wedi pacio fy nghês ar gyfer y daith hon, beth wyt ti’n aros amdano?

Gweithgaredd: Meddylia am dri pheth rwyt ti wedi bod yn eu cario ers amser maith sydd wedi bod yn dy dominyddu di. Rho nhw i Dduw a gofynna iddo dy helpu di i beidio â gadael i'r beichiau hyn aros yn rhan ohonot tii.

Leslie Ramírez

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

New Year, Same God

Mae blwyddyn newydd wedi cyrraedd a chyda hynny, nodau a phenderfyniadau newydd dŷn ni am eu cyflawni. Mae popeth wedi newid yn y byd; er hynny, mae gennym yr un Duw hollalluog all roi blwyddyn fendithiol i ni. Ymunwch â mi yn y 4 diwrnod hyn a fydd yn ein helpu i ddechrau blwyddyn gyda phwrpas.

More

Hoffem ddiolch i Susan Narjala am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://aboutleslierl.web.app/