Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blwyddyn Newydd, yr Un DuwSampl

New Year, Same God

DYDD 2 O 4

Nod i'w gyflawni.

Waw, blwyddyn newydd o'r diwedd! Dw i'n teimlo'n galonogol iawn ac yn barod i fwrw iddi.

Y gwir yw bod pob person yn dechrau'r flwyddyn yn wahanol, felly gofynnais i rai o fy ffrindiau sut maen nhw'n teimlo pan fydd blwyddyn newydd yn cyrraedd, pa bethau maen nhw'n eu gwneud ac os maen nhw'n barod am rywbeth. Dyma rai o'u hymatebion:

- "I fod yn onest, dw i ddim yn gosod llawer nod i mi fy hun oherwydd dw i'n gwybod na fydda i’n cwrdd â phob un ohonyn nhw, ond dw i'n teimlo'n hapus i orffen y flwyddyn dal yn yn fyw.”

- “Weithiau dw i’n teimlo’n dda, dro arall dw i ddim yn rhoi fawr o bwys arno, mae’r cyfan yn dibynnu ar sut mae’r flwyddyn yn dod i ben. Mae gen i sawl nod, dw i'n dechrau gyda thua saith."

- "Fel arfer, dw i'n aros am y flwyddyn newydd mewn ffordd fyfyriol, dw i'n gwneud dadansoddiad o'r hyn dw i eisiau a sut dw i'n teimlo ar hyn o bryd."

- "Pan fyddaf yn dechrau'r flwyddyn dw i’n teimlo bod gen i gyfrifoldeb i gyflawni popeth dw i eisiau ac i greu arferion sy'n fy helpu i wella fy hun."

- "Dydw i ddim yn meddwl fy mod yn dda am hyn. Mae blwyddyn newydd wedi cyrraedd, dw i dal eisiau gwneud yr un peth ag erioed."

Wyt ti'n uniaethu ag unrhyw un o'r ymatebion hyn? Mae gan bob un ohonyn nhw ffactor cyffredin: Maen nhw i gyd yn gosod o leiaf un nod. Beth bynnag yw dy agwedd ar y dechrau newydd hwn, mae'n bwysig bod gen ti sawl nod i'w gwneud yn flwyddyn ystyrlon hefyd. Mae nodau yn ein helpu i adeiladu ar rywbeth, gan greu disgyblaeth a chyfrifoldeb ar hyd y ffordd. Pa bethau wyt ti eisiau eu gwneud? Gosoda nodau rwyt yn gwybod y gelli di eu cyrraedd, ond sy'n dy herio ar yr un pryd.

Cyn belled â’n bod ni’n fyw, fe fydd gennym ni bob amser y cyfle i newid a gwella, felly manteisia arno. Un tro, dwedodd ffrind wrtho i nad oedd ganddo nodau, ei fod yn mynd i adael i bopeth fynd gyda'r llif. Wyt ti'n meddwl ei fod yn mynd i gael blwyddyn ystyrlon? Mae'r posibiliadau'n fain. Nid yw pethau'n digwydd, mae'n rhaid i ni wneud iddyn nhw ddigwydd.

Wnaeth Duw ddim dod â thi i'r byd hwn i fyw heb ystyr, Mae e eisiau dy weld di'n tyfu, yn gwella dy hun ac yn cyflawni'r hyn rwyt ti ei eisiau. Mae eisoes yn glir iawn ynghylch y cynlluniau sydd ganddo ar dy gyfer di. Gall ein nodau mewn bywyd newid, ond mae Duw yn aros yr un fath, bob amser yn barod i'n cryfhau a'n helpu i gyflawni unrhyw beth o dan ei ewyllys e.

Gweithgaredd: Gwna restr o 10 nod rwyt am eu cyflawni eleni, o'r rhai symlaf i'r rhai sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r gwaith. Noda pa arferion y mae angen i ti eu datblygu i'w cyflawni.

Leslie Ramírez

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

New Year, Same God

Mae blwyddyn newydd wedi cyrraedd a chyda hynny, nodau a phenderfyniadau newydd dŷn ni am eu cyflawni. Mae popeth wedi newid yn y byd; er hynny, mae gennym yr un Duw hollalluog all roi blwyddyn fendithiol i ni. Ymunwch â mi yn y 4 diwrnod hyn a fydd yn ein helpu i ddechrau blwyddyn gyda phwrpas.

More

Hoffem ddiolch i Susan Narjala am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://aboutleslierl.web.app/