Logo YouVersion
Eicon Chwilio

60 I ddechrauSampl

60 to Start

DYDD 34 O 60

"Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni'n maddau i'r rhai sydd mewn dyled i ni.

Arglwydd, dw i'n gofyn fod dy waed yn fy nglanhau a maddau i mi. Gofynnaf i ti chwilio am unrhyw bechod ynof neu unrhyw beth dw i wedi'i wneud i bechu yn dy erbyn. (Cymer ennyd i ofyn i Dduw ddangos pechod bwriadol ac anfwriadol) Iesu dw i'n cyfaddef fy mhechod i ti.

Arglwydd dw i'n maddau i unrhyw un sydd wedi gwneud unrhyw beth drwg yn fy erbyn.

Dw i'n dewis peidio ymateb i, na dial yn erbyn unrhyw sydd wedi bod yn gas tuag ataf i.

Diolch Iesu am dy drugaredd. Drwy dy ras byddaf yn cerdded mewn cariad.
Diwrnod 33Diwrnod 35

Am y Cynllun hwn

60 to Start

Cynllun chwedeg niwrnod i'th helpu i ddechrau (neu ail-ddechrau) dy berthynas gydag Iesu. Byddi'n gwneud tri pheth bob dydd: Cwrdd ag Iesu yn yr Efengylau, darllen yn y llythyrau sut oedd ei ddilynwyr yn byw ei neges, a thyfu'n agosach ato Fe drwy weddi.

More

Hoffem ddiolch i Trinity New Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.trinitynewlife.com