Newid mewn Bywyd: PwrpasSampl
Yn y Disgwyl
Rhoddodd dridiau cyntaf y cynllun hwn ddigon iti feddwl amdano. Mae’n ddigon hawdd deall dy fod yn teimlo wedi dy lethu wrth drio gwneud y cysylltiad rhwng yr hyn yr wyt ti’n angerddol amdano, yr hyn rwyt yn dda am ei wneud, a’r pethau anodd rwyt wedi’i goroesi. Yn lle gadael i’r straen a’r obsesiwn ddylanwadu arnat ti, cofleidia’r amser o ddisgwyl. Falle ei fod eisiau dysgu rhywbeth iti cyn iddo ddangos unrhyw beth ei gynllun ar dy gyfer.
i fi, roedd gen i angen dysgu sut i weld fy hun drwy lens gwirionedd Duw cyn imi allu gweld y darlun mwy oedd ganddo ar gyfer fy mywyd. Roedd llawer gormod o gyfnodau ble gredais i’r celwydd nad oedd gen i ddim i'w gynnig a bu bron imi adael iddo fy stopio rhag gwneud beth oedd Duw eisiau imi ei wneud. Pan ddechreuais i mewn gweinidogaeth, teimlais nad o’n i’n gwybod digon o’r Beibl ac nad oedd gen i ddigon o ddoniau i wneud unrhyw beth gwerth chweil. Er gwaethaf fy ansicrwydd, addewais i Dduw y byddwn i’n ildio i beth bynnag y byddai’n rhoi o’m mlaen i. Pan gamais i allan o le o sicrwydd a chynnig gwasanaethu, fe’m synnwyd mai’r hyn y gallwn ei gynnig oedd ei angen. Y gwir amdani yw na welodd neb fi fel rhywun analluog neu ddidalent, yn enwedig Duw. Eto,ro’n i wedi rhoi i’r celwyddau yn fy mhen mwy o bŵer dros fy mywyd na gwirionedd Gair Duw.
Profodd Moses hefyd deimladau o annigonolrwydd. Yn llyfr Exodus, mae Duw’n defnyddio Moses i ryddhau’r Israeliaid o gaethwasiaeth yr Eifftiaid a rhoi iddyn nhw’r cyfreithiau Iddewig y buon nhw’n eu dilyn am ganrifoedd. Moses oedd un o’r arweinwyr pwysicaf yn hanes yr Israeliaid, ond pan alwodd Duw e i gamu i mewn i’r pwrpas hwn, doedd Moses ddim yn credu bod ganddo’r cymwysterau ar gyfer y job. Hyd yn oed pan addawodd Duw i gof gydag e, mynnodd Moses nad yw’n ddigon da gan ofyn i Dduw anfon rhywun arall. Oeda am funud a meddwl am hynny. Mae Moses yn siarad â’r Duw holl-bwerus nad yw wedi’i glymu gan amser. Sy’n gwybod popeth sydd i wybod, a dal am ei ddefnyddio. Dylai hynny fod yn ddigon i roi hyder i Moses. Ac eto, pa mor aml dŷn ni’n gwneud yn union run fath?
Y funud hon. Falle dy fod yn teimlo’n ansicr o’th bwrpas neu hyd yn oed yn analluog i wneud beth rwyt wedi dy arwain i wneud. Ond rwyt yn gallu credu Gair Duw sy’n dweud bodgennyt ddoniau a thalentau unigryw. Falle nad wyt tyn gallu adnabod dy ddoniau am eu bod yn edrych yn ddi-nod o’u cymharu â rhywun arall neu falle dy fod yn eu cymryd yn ganiataol am eu bod mor hawdd i’w cyflawni. Y gwir amdani yw, mae’r pethau hynny sy’n hawdd i ti ddim yn bethau all pawb eu gwneud. Mae’r hyn sydd gen ti i’w gynnig yn sbesial, a rwyt i fod i chwarae rôl bwysig yng nghynllun Duw. Gofynna iddo beth yw hynny.
Os nad wyt yn siŵr sut i glywed gan Dduw. Dysga mwy amdano. Darllena ei Air, y Beibl, bob dydd. Datblyga fywyd gweddi cryfach drwy siarad a gwrando arno. Treulia amser gyda phobl sy’n adlewyrchu’r ddelwedd o Dduw. Gweithia tuag at berthynas agos gyda Duw, ac yn fuan, byddi’n gallu adnabod ei lais pan fydd yn dy ysgogi.
Pan fyddi’n teimlo ar goll yn y disgwyl, ffocysa ar wrando ar Dduw. Dysga beth mae e’n ddweud amdanat. Gofynna iddo dynnu dy sylw at y celwyddau fel nad ydyn nhw’n dy hawlio ddim mwy. Ystyria sut y gelli di ymarfer ffyddlondeb nawr, yn y pethau bach, fel y byddi di’n barod pan fydd yn datgelu mwy. Gofynna iddo ddangos beth wyt ti’n dda ynddo, a bod yn barod i gynnig popeth sydd gen ti iddo. Gwna’r pethau hyn wrth iti ddisgwyl amdano oherwydd yn amlach na pheidio mae ein pwrpas jest tu draw i’n parodrwydd i ildio a gwrando.
Dduw, diolch iti am greu pwrpas penodol ar fy nghyfer. Helpa fi i weld fy hun drwy dy lygaid dy hun a chael gwared ar yr holl gelwyddau sy’n fy nghadw i nôl. Helpa fi i gredu fy mod wedi fy ngwneud yn ddi-ofn a rhyfeddol yn dy ddelwedd di a does neb arall fel fi. Parha i fy mowldio a’m mharatoi ar gyfer dy bwrpas ar fy nghyfer. Dangosa imi'r cam nesaf dw i angen i dyfu’n agosach atat ti a llenwi’r bwlch sydd gen ti ar fy n gyfer yn dy eglwys. Yn enw Iesu, Amen.
Am y Cynllun hwn
Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os wyt ti'n teimlo ar goll, neu os wyt ti'n betrusgar i symud, bydd y cynllun 5 diwrnod hwn yn dy helpu i drystio Duw, fel ei fod yn gallu dy arwan at dy bwrpas.
More