Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Newid mewn Bywyd: PwrpasSampl

Living Changed: Purpose

DYDD 1 O 5

Wedi dy greu i Bwrpas

Cafodd pob un ohonom ein geni i gyflawni pwrpas unigryw yn y byd hwn. Er na fyddem yn dewis cydnabod, neu wneud synnwyr o beth yw, dyluniodd Duw pob un person gyda chyfuniad unigryw anhygoel o ddoniau y mae e am i ni eu defnyddio i dyfu ei eglwys. Diolch byth, mae Duw wedi gosod cliwiau yn ein calonnau a, thrwy’r Ysbryd Glân, yn ein harwain i ddarganfod ein pwrpas.

Fel plant, mae gynnon ni ddychymyg mor fawr. Dŷn ni’n creu cymeriadau bydoedd cyfan ble dŷn ni’n gweld ein hunain yn alluog i wneud unrhyw beth. Does dim ffiniau! Dŷn ni heb ddysgu beth yw ofni, neu gael gwybod na allwn. Dŷn ni, hyd yn hyn, heb ein cyfyngu gan wirioneddau llym bywyd, neu’n poeni am ein statws. Dŷn ni’n hyderus ym mhwy ydym ac yn rhydd i chwarae allan ein breuddwydion.

Fedra i gofio chwarae yn yr ardd flaen yn fy mhyjamas arwr. Fi oedd Wonder Woman, yn achub y byd o beryglon! Byddwn yn sefyll ar stepen y drws gyda’m dwylo ar fy nghluniau, ac ar yr arwydd cyntaf o berygl, baswn yn neidio i’r adwy i achub y dydd. Hyd yn oed ar ôl chwarae drwy’r dydd, doeddwn i ddim yn blino o’i wneud.

Pan es i’n hŷn, byddwn yn meddwl pam oedd gen i’r awydd arbennig hwnnw pan yn fach. Daeth yn eglur iawn imi, hyd yn oed pan oeddwn i'n blentyn bach, mod i eisiau helpu’r rheiny oedd yn methu helpu eu hunain. Fel gweinidog, dyna’n union dw i’n cael ei wneud heddiw. Dw i’n gweithio’n ddiflino i achub pobl o giatiau uffern a’u harwain at yr Achubydd. Dw i’n gwybod fod Duw wedi fy ngosod i ar y ddaear i helpu achub pobl. Rhoddodd yr awydd hwnnw ynddo i o’r dechrau.

Falle nad oeddet ti eisiau bod yn arwr. Yn lle, byddet yn ailadrodd arferion cyn mynd i’r gwely ar gyfer dy deganau, neu roi dy deganau meddal anifeiliaid ar ffurf dosbarth i’w dysgu. Falle wnes ti gymryd arnat fod yn ddoctor, newyddiadurwr, neu’n anturiaethwr byd. Beth bynnag oedd dy freuddwydion fel plentyn doedden nhw ddim yna ar ddamwain. Rhoddodd Duw nhw yna i bwrpas. Er fod y byd, efallai, wedi dy argyhoeddi i’w diystyru fel dychmygol, maen nhw dal yna - wedi’u gweu i mewn i’r brethyn y torrwyd ti ohono.

Os wyt ti’n ansicr o bwrpas Duw ar dy gyfer, edrycha ar yr hyn wnes ti ei freuddwydio. Ystyria beth sy’n achosi i ti golli deigryn, sy’n tynnu ar dannau dy galon, yn dy gynhyrfu, ac achosi ynot ti ddicter cyfiawn. Rhoddodd e rheiny ynot ti, dy greu’n unigryw ar gyfer yr hyn y gelli di’n unig ei gyflawni.

O Dduw, diolch am fy nghreu gyda phwrpas penodol. Diolch am gredu ynddo i a rhoi imi'r union bethau dw i'w angen i gyflawni’r alwad ar gyfer fy mywyd. Datgela imi'r angerdd, gobeithion, a’r dyheadau rwyt wedi’u plannu yn fy nghalon, ac Arglwydd, dangosa imi’n glir sut i’w defnyddio ar gyfer dy Deyrnas. Helpa fi i fyw yn dy ewyllys, a dod â gogoniant iti gyda phopeth dw i’n ddweud a’i wneud. Yn enw gwerthfawr Iesu, Amen.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Living Changed: Purpose

Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os wyt ti'n teimlo ar goll, neu os wyt ti'n betrusgar i symud, bydd y cynllun 5 diwrnod hwn yn dy helpu i drystio Duw, fel ei fod yn gallu dy arwan at dy bwrpas.

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.changedokc.com/