Newid mewn Bywyd: PwrpasSampl
Rhoddion gan Dduw
Wyt ti erioed wedi stopio ac ystyried sut mae holl ddarnau dy fywyd yn asio at ei gilydd? Pa un ai os wyt ti’n sylweddoli ai peidio fe wnaeth Duw osod rhai pethau ar draws dy lwybr a rhoi cyfleoedd iti gryfhau sgiliau gwahanol, fel y gallai dy baratoi ar gyfer dy bwrpas.
Fel gwraig 30 oed, de i’n cofio meddwl nôl i fy nyddiau coleg a meddwl pa gyswllt oedd gyda mywyd fel oedolyn. Am 13 mlynedd, o’r ysgol feithrin i’m mlwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd bûm yn dawnsio ac arwain ambell i rali. Fel oedolyn allwn i ddim gweld pam roedd Duw wedi rhoi’r profiadau hynny imi.
Byr amser ar ôl hynny, fe es i i gynhadledd ble clywais wraig yn siarad yn angerddol am arwain eraill at Grist. Meddyliais i fy hun, “Dw i eisiau gwneud hynny ryw ddiwrnod.” Y funud honno, dadlennodd Duw’r cyfan imi. Oherwydd y dawnsio roeddwn yn gyfforddus o flaen tyrfaoedd ac yn gallu dal eu sylw. Yn yr holl flynyddoedd hynny roedd Duw wedi bod yn fy mharatoi ar gyfer y rôl oedd ganddo ar fy nghyfer.
Mae bob un o’th brofiadau bywyd yn unigryw i ti. Ystyria’r doniau naturiol mae Duw wedi’u rhoi i ti, y gwahanol gyfleoedd ges ti, a’r sgiliau rwyt wedi’u hennill. Meddylia am ble dyfais ti i fyny, ble rwyt wedi teithio iddo, a’r hyn rwyt wedi’i ddysgu. Falle dy fod yn gallu deall diwylliannau gwahanol ac yn gallu uniaethu i’r bobl o gwmpas y byd, neu rwyt yn gallu creu celf sy’n ysbrydoli pobl i weithredu. Falle fod y profiadau gwahanol yn dy fywyd yn edrych yn amherthnasol ar bennau eu hunain, ond gyda’i gilydd, maen nhw’n dy arwain tuag at rywbeth ystyrlon y gelli di ei ddefnyddio i ogoneddu Duw.
Dŷn ni’n gweld hyn yn llyfr Esther, sy’n dweud wrthon ni am wraig Iddewig sydd mewn sefyllfa unigryw o arbed ei phobl o hil-laddiad torfol. Hyd yn oed fel gwraig a brenhines y brenin Persiaidd, doedd hi ddim yn gweld ei hun yn fwy sbesial neu’n bwysicach i gynllun Duw na neb arall. Dim ond gwneud ei gorau i oroesi oedd hi. Ond oherwydd pwy oedd hi, y man ble roedd hi’n byw, y cyfnos roedd yn byw ynddo, gyda phwy roedd ganddi ddylanwad, a’r doethineb roddodd Duw iddi, defnyddiodd Duw hi i arbed yr Israeliaid rhag marwolaeth.
Does dim dwywaith fod Duw wedi rhoi sgiliau, talentau, addysg, pŵer ariannol, statws, neu ddylanwad sy’n unigryw i ti. Y cwestiwn ydy, sut wnei di ei ddefnyddio. Does dim rhaid iti fod mewn gweinidogaeth lawn amser i wneud gwaith Duw. Gelli weithio i Dduw mewn busnes neu gartref, gyda llawer neu ychydig. Ni fydd y rhan helaeth ohonon ni’n enwog rhyw ddydd, ond mae gan bob un ohonom gylchied o ddylanwad a doniau unigryw y bydd ar y rhai sydd yn ein cylchoedd o ddylanwad ei angen. Gofynna i Dduw ddatgelu sut mae’r pethau hyn yn dy arfogi ar gyfer ei bwrpas.
Dduw, diolch iti am bopeth rwyt wedi’i roi imi a phob cyfle roddaist o’m blaen. Dangos imi’r holl gryfderau, nodweddion, dysg, dylanwad a darpariaethau rwyt wedi’u rhoi imi, sy’n unigryw i fi. Datgela sut maen nhw’n dod at ei gilydd i’m harwain at dy bwrpas di imi mewn bywyd. Dw i eisiau defnyddio’r pethau’n fy ngorffennol ar gyfer dy Deyrnas. Helpa fi i ddod â gogoniant i ti a’th anrhydeddu. Yn enw Iesu, Amen
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os wyt ti'n teimlo ar goll, neu os wyt ti'n betrusgar i symud, bydd y cynllun 5 diwrnod hwn yn dy helpu i drystio Duw, fel ei fod yn gallu dy arwan at dy bwrpas.
More