Clywed o'r Nefoedd: Gwrando am yr Arglwydd mewn Bywyd DyddiolSampl
Mae'r llais nefol yn dweud, "Cymera loches ynof i."
Fi oedd y boi bach yn tyfu i fyny. Ac yn anffodus, dw i'n dal i fod.
Mae bywyd mewn lefydd i aros ynddyn nhw dros dro yn Nairobi yn aml yn cael ei nodweddu gan drais, a rhoddodd fy niffyg torfol gyfran deg o'r trais hwnnw i mi yn benodol. Weithiau, roedd yn teimlo fel ei fod yn sefyllfa pawb drosto’i hun. Doedd gan ein rhieni ddim amser i sicrhau nad oeddem yn cael ein bwlio-roedd yn rhaid iddyn nhw weithio cymaint ag y gall en nhw i ennill rhyw fath o incwm.
Tra yn y chweched dosbarth wnes i brofi pwl arbennig o wael o fwlio. Roedd yr arweinydd yn ymddangos fel cawr! Fe wnaeth fy mychanu. Ar ddiwedd yr wythnos, ro’n i’n fwyaf anobeithiol. Ond es i i'r Ganolfan Dosturi yn fy eglwys, lle buon nhw’n siarad am Dduw fel ein lloches. Wrth glywed y ddysgeidiaeth hon, tywalltodd cariad yr Arglwydd allan i mi a chafodd fy enaid tlawd ei gysuro.
Roedd y Ganolfan Dosturi yn lle y gallwn i brofi heddwch a diogelwch. Byddai'r staff yn cymryd gofal da ohonom ac yn ein cysuro. Wyt ti erioed wedi teimlo ofn? Wyt ti erioed wedi teimlo'n anniogel? Wyt ti erioed wedi teimlo'n analluog i ddarlunio'ch bywyd? Gallwn fynd â'n hofn at ein Duw oherwydd ei fod yn Dduw da. Mae e’clywed ein crio er diogelwch. Mae e'n ein hamddiffyn rhag drwg.
Fel Dafydd, gelli dithau alw allan ar Dduw. Gall warchod dy fywyd! Gall dy amddiffyn rhag peryglon y byd hwn. Cymera eiliad a gweddïa dros yr holl blant yn y byd sy'n ofni. Pledia dros eua bywydau a'u heneidiau a gofyn i'r Arglwydd ddatgelu ei hun fel lloches iddyn nhw. Amen.
Dysga mwy am y rhaglen dosturi y mae ein hawdur, Njenga, yn cyfeirio ato, a gelli di ddod ag Ysbryd yr Arglwydd at blant mewn tlodi .
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r Arglwydd yn fyw ac yn weithgar heddiw, ac mae'n siarad â phob un o'i blant yn uniongyrchol. Ond weithiau, gall fod yn anodd ei weld a'i glywed. Trwy archwilio stori taith un dyn tuag at ddeall llais Duw yn slymiau Nairobi, byddi'n dysgu sut beth yw ei glywed a'i ddilyn.
More