Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Clywed o'r Nefoedd: Gwrando am yr Arglwydd mewn Bywyd DyddiolSampl

Hearing From Heaven: Listening for the Lord in Daily Life

DYDD 2 O 5

“Siarada, mae dy was yn gwrando.”-

Mae Duw bob amser wedi siarad yn glir â'i bobl. Trwy offeiriaid a phroffwydi, datgelodd wirioneddau a oedd yn rhoi bywyd i'r rhai a oedd yn caru ac yn dibynnu arno. Ac mae'n dal i fod wrth ei fodd yn siarad â'i bobl! Ond os dŷn ni ddim yn gallu ei weld a’i glywed, bydd bod yn ddilynwyr Crist bron yn amhosibl.

Allwch chi ddychmygu peidio clywed gair Duw fawr ddim? Mynd am ddiwrnodau, efallai blynyddoedd, heb glywed gan Dduw? Mae'n swnio'n ofnadwy o anobeithiol. Ond dyna’n union beth ddigwyddodd yn 1 Samuel. Tra roedd pobl yr Arglwydd yn dyheu am glywed ei lais, dewisodd ddatgelu ei hun i ddyn ifanc.

Nid oedd Samuel ifanc ddim yn adnabod llais Duw eto. Felly pan glywodd yr alwad, ymatebodd Samuel yn yr unig ffordd yr oedd yn gwybod sut: Rhedodd at ei fentor dynol! Ond trwy ddoethineb Eli, dechreuodd Samuel ddeall i bwy roedd y llais yn perthyn a sut roedd yn swnio.

Mae modd adnabod llais Duw. Yn syml, mae'n rhaid i ni wybod am beth i wrando!

Darllenais y stori hon fel bachgen ifanc yn y Rhaglen Tosturi Rhyngwladol a fynychais, ac fe'm hanogwyd yn ddwfn. Gan fyw mewn tlodi eithafol, ro'n i bob amser eisiau i Dduw ddatgelu ei hun i mi yn y ffordd fawr a beiddgar hyn. Ond beth fyddwn i'n ei wneud pe bai wir yn datgelu ei hun i mi? Beth fyddai'n ei ofyn i mi?

Dysga wrando ar lais y gwirionedd yn lle amheuaeth, enbydrwydd neu anobaith. Hyffordda dy glust i glywed ei newyddion da! Rhoddodd yr Arglwydd ei Air inni ar ffurf llyfr-darllena ei wirionedd, sydd yn unig ar dy gyfer di, yn y Beibl. Tyrd o hyd i fentor sy'n adnabod llais yr Arglwydd ac yna astudio gyda nhw. Ymuna â grŵp o gredinwyr sy'n adnabod ac yn caru'r Arglwydd ac yn gallu eich godi wrth chwilio am lais yr Arglwydd.

Dysgodd

Eli Samuel sut y dylai ymateb i lais yr Arglwydd: “Siarada, mae dy was yn gwrando.” Am ymateb hyfryd. Dylem ymateb yn yr un modd bob tro y byddwn yn ei glywed yn siarad.

Mae'r Arglwydd eisiau datgelu ei hun i'w bobl. Mae am ein tywys a'n harwain. Wyt ti’n adnabod llais Duw? Wyt ti’n ceisio arweiniad ar gyfer y camau nesaf yn dy fywyd, busnes, addysg, teulu neu weinidogaeth? Os mai dyna yw dy weddi, gweddïau gyda mi, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Hearing From Heaven: Listening for the Lord in Daily Life

Mae'r Arglwydd yn fyw ac yn weithgar heddiw, ac mae'n siarad â phob un o'i blant yn uniongyrchol. Ond weithiau, gall fod yn anodd ei weld a'i glywed. Trwy archwilio stori taith un dyn tuag at ddeall llais Duw yn slymiau Nairobi, byddi'n dysgu sut beth yw ei glywed a'i ddilyn.

More

Hoffem ddiolch i Compassion International am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.compassion.com/youversion