Clywed o'r Nefoedd: Gwrando am yr Arglwydd mewn Bywyd DyddiolSampl
“Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.”
Yn blentyn, ro’n i wrth fy modd yn clywed hanesion Duw yn achub yr Israeliaid o'r Aifft. Fe wnes i uniaethu gyda'r straeon hyn. Roedd byw mewn tlodi eithafol fel mod i’n byw fel caethwas yn yr Aifft.
Wedi tyfu i fyny yn slymiau Nairobi, bydd Kenya yn gwneud iti alw ar yr Arglwydd. Bydd yn rhaid iti ofyn iddo dy waredu o'r tlodi dwfn na all dy deulu ddianc ohono. Roedd gwybod y byddai Duw yn clywed fy nghri am help yn fy nghysuro - byddai'n dod i helpu. Fel y salmydd, ro’n i’n gallu crio, ‘’ O ble daw help i mi? Daw help oddi wrth yr Arglwydd, yr Un wnaeth greu’r nefoedd a’r ddaear.”
Profodd hanes yr Exodus fod Duw wedi clywed gwaedd cyson ei bobl am gymorth ac yn ceisio eu gwaredu ar gyfer ei Deyrnas. Ac mae'n dy weld di hefyd.
Yn ychwanegol i hynny, cododd Duw ddyn i arwain ei bobl allan o gaethiwed. Sicrhaodd Duw wrth Moses y byddai gydag e: “Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.” Roedd angen i Moses wrando a gwybod pwy oedd yn ei alw. Fel credinwyr, mae angen inni gofio pwy wnaeth ein galw i’r bywyd dŷn ni’n ei fyw. Mae Iesu, y FI YDY, gyda ni. Fe yw'r un sy'n ein harwain ac yn ein galluogi i gyflawni'r gwaith y mae wedi ein galw i'w wneud.
Gwelodd yr Arglwydd yr Israeliaid yn stryglo yn yr Aifft, a daeth i'w hachub.
Wyt ti'n aros am Dduw? Ydy e wedi teimlo fel am byth? Dŷn ni'n aros yn amyneddgar am Dduw mewn tlodi, salwch, cyfoeth a phob sefyllfa arall oherwydd dŷn ni'n gwybod ei fod yn clywed ein gweddïau ac yn gweld yr amgylchiadau dŷn ni'n eu hwynebu.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae'r Arglwydd yn fyw ac yn weithgar heddiw, ac mae'n siarad â phob un o'i blant yn uniongyrchol. Ond weithiau, gall fod yn anodd ei weld a'i glywed. Trwy archwilio stori taith un dyn tuag at ddeall llais Duw yn slymiau Nairobi, byddi'n dysgu sut beth yw ei glywed a'i ddilyn.
More