'The End of Me" gan Kyle IdelmanSampl
Bod yn ostyngedig i gael dy ddyrchafu
Mae yna bethau rwyt ti'n dysgu mewn gwaith gweinidogaethu. Un yw, bod pobl yn dod i'r capel i chwilio am atebion. Mae nhw wedi'u drysu gan broblemau ac maen nhw'n meddwl os oes yna ateb goruwch-naturiol. Dyled, caethiwed, priodas ar chwalu - beth bynnag yw e, yn hwyr neu hwyrach, maen nhw'n gofyn am arweiniad. Trefn penodol o bwyntiau i'w dilyn i ddatrys problem. "Beth allaf ei wneud?" Dŷn ni wastad yn meddwl mai'r ateb yw, "Gwna hyn..."
A thra mae yna bethau mae angen eu gwneud, y gwir amdani does dim byd gwell na bod yn ostyngedig. Ar y pwynt yma mae yna wastad rhywun sy'n dweud, "Iawn, dw i'n deall. Bydd yn fwy gostyngedig. Ond, mae'n rhaid bod yna rywbeth allaf ei wneud, yn hytrach na bod yn fwy gostyngedig."
Mae hi gymaint haws i wneud, yn hytrach nac i fod. Mae gwneud yn golygu rhyw fath o weithredu. Mae bod yn golygu trawsnewidiad.
ostyngeiddrwydd sy'nRwyt eisiau gwybod beth i'w wneud? Iawn. Gallwn ei wneud fel yna.
Saf o bell.
Cura dy fron.
Gweddïa hyn: " Dduw, trugarha wrtho i.
Dw i am fentro a dweud mai'r olaf yw'r allwedd. Mae'n digwydd pan fyddi di'n ostyngedig.
Oes gen ti ddiddordeb mewn rhai 'peidia'?
Paid ceisio dwyn perswâd.
Paid â thrio ail afael ynddi.
Paid gofyn am fendithion drwy gymharu dy hun ag eraill.
Paid dweud wrth Dduw'r rhesymau y dylet gael dy fendithio.
Paid llongyfarch Duw ar dy gael yn blentyn iddo.
Paid diolch i Dduw am yr holl waith caled rwyt wedi'i wneud.
Does dim sy'n debyg i fod yn ostyngedig o flaen Duw. Mae'r galon ostyngedig yn plesio Duw. Mae'r gri ostyngedig yn ei wahodd i ddangos ei bŵer.
Dŷn ni'n meddwl am gael ein gwneud yn ostyngedig yn rhan o weithred oddefol - hynny yw, rhywun neu rywbeth sy'n ein gwneud yn ostyngedig. Dŷn ni'n cael ein gwneud yn ostyngedig gan ddiweithdra, gan berthynas sydd wedi methu, gan freuddwyd sydd wedi'i chwalu. Ond mae Iesu'n siarad am ostyngeiddrwydd sy'n weithredol - ni yw'r gostyngedig. Dydy hen ddim yn rhywbeth dŷn ni'n disgwyl i ddigwydd yn naturiol. "Gwna dy hun yn ostyngedig. Dydy e ddim yn swnio'n iawn yn nac ydy? Swnio ychydig yn fasocistaidd. Dŷn ni wedi arfer fwy gyda chlywed i ni herio ein hunain ac nid i fod yn ostyngedig.
Dyma brif waith bo yn ostyngedig- yr hyn wnaeth Crist. Fe wnaeth ei hun yn ddim. Bu'n ostyngedig. Dyma rywun oedd, yn ei hanfod yn Dduw ond wnaeth ddim dal gafael yn hynny, ond yn hytrach ei wneud ei hun yn ddim.
Sut mae gwneud ein hunain yn ostyngedig? Dyma rai pethau sy'n fy helpu i wneud beth ddylwn i:
I fod yn ostyngedig dw i'n cyfaddef fy mhechod yn wirfoddol.
I fod yn ostyngedig dw i'n rhoi'n aberthol ac yn ddienw.
I fod yn ostyngedig dw i'n trin eraill yn well na fy hun.
I fod yn ostyngedig, dw i'n gofyn am help.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
O'i gymryd o ddilyniant Kyle Idelman i "Not A Fan" fe'th wahoddir i ddod o hyd i ddod o hyd i bwynt na allet ti fynd yn is, gan mai wedyn yn unig y gelli di gofleidio sut mae Iesu'n dy drawsnewid.
More